You may have noticed that you now have access to EndNote 25, the latest version of the bibliographic management software which you can use freely as a Swansea student, researcher or member of staff.
New features include:
- AI-powered "Key Takeaways" feature which extracts key insights from articles and documents.
- Cite directly from PDF files
- AI-powered "Find a Journal" to enhance research efficiency helping users identify suitable publications for their manuscripts (within Word online)
The new version is avaialable to download now, take a look at your Library Guide for instructions on how to access EndNote and for training materials on using the new version.
________________________________________________________________________________________
Efallai eich bod wedi sylwi bod gennych fynediad bellach i EndNote 25, y fersiwn ddiweddaraf o'r feddalwedd rheoli llyfryddiaeth y gallwch ei defnyddio'n rhydd fel myfyriwr, ymchwilydd neu aelod o staff yn Abertawe.
Mae nodweddion newydd yn cynnwys:
- Nodwedd "Pwyntiau Allweddol" wedi'i phweru gan AI sy'n tynnu mewnwelediadau allweddol o erthyglau a dogfennau.
- Dyfynnu'n uniongyrchol o ffeiliau PDF
- "Dod o Hyd i Gyfnodolyn" wedi'i bweru gan AI i wella effeithlonrwydd ymchwil gan helpu defnyddwyr i nodi cyhoeddiadau addas ar gyfer eu llawysgrifau (o fewn Word ar-lein)
Mae'r fersiwn newydd ar gael i'w lawrlwytho nawr, edrychwch ar eich Canllaw Llyfrgell am gyfarwyddiadau ar sut i gael mynediad at EndNote ac am ddeunyddiau hyfforddi ar ddefnyddio'r fersiwn newydd.
To streamline our service, we have introduced a new process for requesting books for learning and teaching. Requests will now be managed automatically through our reading list management software iFind Reading, providing a more efficient and consistent service.
Modules must have a reading list in iFind Reading before new books can be requested. New reading lists are easy to create if one doesn’t already exist. Follow the steps in your Library Guide or contact us and we can provide tailored instructions. Important: new items can take up to 10 weeks to arrive so please make sure essential requests are made in good time.
Your Librarians are available if you have any queries about the new system, please contact us. You can also find us at this year's SALT conference where we'll be demonstrating and answering questions on the new system.
__________________________________________________________________________________________
Er mwyn symleiddio ein gwasanaeth, rydym wedi cyflwyno proses newydd ar gyfer gofyn am lyfrau ar gyfer dysgu ac addysgu. Bydd ceisiadau bellach yn cael eu rheoli'n awtomatig trwy ein meddalwedd rheoli rhestrau darllen iFind Reading, gan ddarparu gwasanaeth mwy effeithlon a chyson.
Rhaid i fodiwlau gael rhestr ddarllen yn iFind Reading cyn y gellir gofyn am lyfrau newydd. Mae rhestrau darllen newydd yn hawdd i'w creu os nad oes un eisoes yn bodoli. Dilynwch y camau yn eich Canllaw Llyfrgell neu cysylltwch â ni a gallwn ddarparu cyfarwyddiadau wedi'u teilwra. Pwysig: gall eitemau newydd gymryd hyd at 10 wythnos i gyrraedd felly gwnewch yn siŵr bod ceisiadau hanfodol yn cael eu gwneud mewn da bryd.
Mae eich Llyfrgellwyr ar gael os oes gennych unrhyw ymholiadau am y system newydd, cysylltwch â ni. Gallwch hefyd ddod o hyd i ni yng nghynhadledd SALT eleni lle byddwn yn arddangos ac yn ateb cwestiynau ar y system newydd.