Siaradodd yr hyfryd Chimamanda Ngozi Adichie yn huawdl am The Danger of a Single Story yn ôl yn 2009. Rhannodd bwysigrwydd gweld pobl fel chi eich hun mewn ffuglen a rhybuddiodd os ydym ond yn clywed un stori am grŵp o bobl, ni allwn fynd ati i’w deall yn iawn. Mae’n hawdd cwympo i rych ddarllen, lle rydym yn darllen yr un math o lyfrau gan yr un bobl. Er mwyn eich helpu i ddarganfod llyfrau newydd gan amrywiaeth ehangach o leisiau, hoffem gyflwyno’r Her Darllen yn Well. Y tymor hwn, rydym wedi cael ein hysbrydoli gan Fis Hanes Pobl Dduon.
Mae’r cynllun yn syml – darllenwch lyfr sy’n cyd-fynd â phob category isod. (os ydych yn gallu dod o hyd i lyfr sy’n cyd-fynd â mwy nag un categori, mae hawl gwneud hynny!). Rydym wedi awgrymu rhai yr hoffech roi cynnig arnynt isod. Gallwch eu benthyg o Lyfrgelloedd Prifysgol Abertawe. Gallwch ddod o hyd i’ch llyfrau eich hun hefyd – rhannwch eich syniadau gan ddefnyddio #paDarllenYnWell.
Cynhelir yr her tan 6 Ionawr, felly gallwch ddarllen rhai o’r rhain dros wyliau’r Dolig hefyd. Os nad ydych yn llwyddo mynd i’r afael â phob categori erbyn mis Ionawr, peidiwch â phoeni – hwyl yn unig yw hwn, felly gallwch gymryd faint bynnag o amser sydd ei angen arnoch! Rhowch wybod i ni sut mae’n mynd ar @SwanseaUniLib ar Twitter, Instagram a Facebook.
Llyfr gan awdur du a enillodd wobr yn 2018 neu 2019
An American Marriage, gan Tayari Jones (enillydd Gwobr Ffuglen Menywod)
The Perseverance, gan Raymond Antrobus (enillydd Gwobr Folio Rathbones a Gwobr Ted Hughes)
Kumukanda, gan Kayo Chingonyi (enillydd Gwobr Dylan Thomas)
Nofel ffuglen neu ffeithiol am genhedlaeth Windrush
Small Island, gan Andrea Levy
The Lonely Londoners, gan Samuel Selvon
Windrush: the irresistible rise of multi-racial Britain, gan Mike Phillips & Trevor Phillips
Llyfr ffeithiol am hanes pobl dduon ym Mhrydain
Staying Power: The History of Black People in Britain, gan Peter Fryer
Black and British: A Forgotten History, gan David Olusoga
The Interesting Narrative of the Life of Olaudah Equiano, gan Olaudah Equiano
Llyfr ffuglen mewn genre gan awdur du (gall ffuglen genre gynnwys trosedd, ffantasi, rhamant, ffuglen wyddonol, arswyd...)
Kindred, gan Octavia E. Butler
Thief! gan Malorie Blackman
Devil in a Blue Dress, gan Walter Mosley