Skip to Main Content

Setiau data yn y Gwyddorau Iechyd a Meddygol: Cyfeirio at Ddata

This page is also available in English

Cyfeirio at setiau data

Hwyrach bydd data a thablau ystadegol yn cynnwys elfennau arbenigol nad ydynt yn cael eu defnyddio’n helaeth yn y rhan fwyaf o arddulliau dyfynnu. Wrth ddyfynnu data neu dablau ystadegol, dylech gynnwys y darnau hyn o wybodaeth o leiaf:

  • Awdur neu luniwr – y person, y sawl neu’r sefydliad a greodd y set ddata
  • Dyddiad cyhoeddi – dyddiad cyhoeddi’r set ddata.
  • Teitl neu ddisgrifiad – y teitl yn llawn 
  • Cyhoeddwr  - y sefydliad, y gronfa ddata, yr archif neu’r cylchgrawn sy’n gyfrifol am gadw’r data
  • URL neu DOI – y dynodwr digidol unigryw
  • Hwyrach bydd rhai arddulliau yn gofyn hefyd am wybodaeth ychwanegol megis: 

  • Yr argraffiad neu’r fersiwn
  • Dyddiad cyrchu ar-lein
  • Disgrifiad o’r fformat, e.e. ffeil ddata, cronfa ddata, CD-ROM, meddalwedd cyfrifiadurol

7fed argraffiad APA

Yn setiau data 7fed argraffiad APA cyfeirir at setiau data fel a ganlyn:

Dyfynnu yn y testun:

Awdur neu sefydliad, dyddiad

(Pew Hispanic Center, 2004)

Nododd y Pew Hispanic Center (2004) fod …

Yn y rhestr gyfeirio:

Enghraifft o awdur unigol:

Wong, K. K., & Langevin, W. E. (2007). Policy expansion of school choice in the American states, 1991-2005 (Fersiwn 1) [Set ddata]. ICPSR. http://doi.org/10.3886/ICPSR20427.v1

Enghraifft o awdur sy’n grŵp:

Pew Hispanic Center. (2004). Changing channels and crisscrossing cultures: A survey of Latinos on the news media [Ffeil ddata a llyfr codio]. http://pewhispanic.org/datasets/

Enghraifft o ddata cynradd neu ddata heb ei gyhoeddi:

Sherlock, D., & Mulvihill, A. (2018). MASTER Focus Program: Outline of skills [Data cynradd heb ei gyhoeddi]. Prifysgol Queensland.

Dyfynnu setiau data yn Vancouver

Yn Vancouver cyfeirir at setiau data fel a ganlyn:

Templed:

Enwau’r ymchwilydd(wyr). Teitl y set ddata [nodwch y cyfrwng]. Enw/Cynhyrchydd y sefydliad sy’n lletya: Lleoliad daearyddol; Blwyddyn cyhoeddi [Dyddiad cyrchu]. Ar gael yn: Dynodwr – DOI neu URL

Enghraifft:

1. Harrell, F. Data for Titanic passengers [Ffeil ddata]. Prifysgol Vanderbilt, Adran Bioystadegau: Nashville, Tennessee; 2011. [wedi’i dyfynnu 24 Hyd 2014]. Ar gael yn: http://biostat.mc.vanderbilt.edu/wiki/pub/Main/DataSets
​/titanic.txt