Skip to Main Content

Peirianneg: Cyfeirnodi

This page is also available in English

Uniondeb Academaidd

Mae'n bwysig eich bod yn darllen Gweithdrefn Camymddwyn Academaidd Prifysgol Abertawe. Bydd methu cydnabod gwaith rhywun arall (h.y. cyfeirio ato'n gywir mewn papur) yn arwain at ganlyniadau difrifol.

Diffinnir llên-ladrad fel defnyddio gwaith rhywun arall, heb ei gydnabod, gan ei gyflwyno i'w asesu fel petai'n waith y myfyriwr; er enghraifft trwy gopïo neu aralleirio heb gydnabod y ffynhonnell. Llên-ladrad yw hwn boed yn fwriadol neu’n anfwriadol. Os oes angen cyngor ychwanegol ar sut i osgoi llen-lladrad cwbwlhewch y tiwtorial ar-lein Llwyddiant academaidd: Sgiliau ar gyfer dysgu, sgiliau ar gyfer bywyd ar gael trwy Canvas.

Cyfeirnodi yn arddull Vancouver

Gofynnwch i’ch darlithydd os nad ydych chi’n ansicr o ran pa arddull gyfeirnodi i’w defnyddio ar gyfer eich aseiniad. 

Cyfeirnodi yn arddull APA

Gofynnwch i’ch darlithydd os nad ydych chi’n ansicr o ran pa arddull gyfeirnodi i’w defnyddio ar gyfer eich aseiniad. 

Cyfeirnodi yn arddull APA (7fed arg.)

Cyfeirnodi yn arddull IEEE

Mae arddull yr IEEE yn arddull rifiadol sy'n debyg iawn i arddull Vancouver, lle caiff dyfyniadau eu rhifo [1] yn y drefn y maen nhw'n ymddangos. Mae'r dyfyniad hwn yn arwain eich darllenydd at gyfeirnod llawn o'r ffynhonnell yn y rhestr o gyfeiriadau ar ddiwedd eich gwaith. Nid yw'r llyfrgell yn cefnogi arddull yr IEEE ond fe'i defnyddir yn fwyfwy yn nisgyblaethau Peirianneg Electronig a Thrydanol a Chyfrifiadureg.

Bydd EndNote...

Icon for EndNote X7

Bydd EndNote:

  • storio a rheoli cyfeiriadau yn eich cronfa ddata eich hun fel na fyddwch yn colli trywydd amdanynt.
  • gweithio gyda Word i fformatio'ch cyfeiriadau mewn ystod eang o arddulliau.
  • mewnforio cyfeiriadau o lawer o gronfeydd data ar-lein fel Web of Science heb i chi orfod eu teipio.

I ddarganfod mwy am EndNote ymwelwch â'n Canllaw Llyfrgell EndNote.

Mendeley

Mae Mendeley yn eich galluogi i gasglu, rheoli a defnyddio cyfeiriadau rydych yn eu canfod yn eich gwaith ymchwil.  Gellir ei ddefnyddio gyda Word i ychwanegu dyfyniadau a llunio rhestr gyfeirio mewn dogfen. Mae elfen gwe i Mendeley y gellir ei defnyddio gydag unrhyw borwr y we; serch hynny bydd angen i chi ddefnyddio’r elfen bwrdd gwaith i ddefnyddio’r Citation Plugin gyda Word… Bydd Mendeley yn gwneud y canlynol:

  • Rhannu cyfeiriadau gyda defnyddwyr Mendeley eraill
  • Storio testun PDF llawn yn eich llyfrgell ac yn eich galluogi i wneud anodiadau
  • Creu llyfryddiaeth a nodi wrth i chi ysgrifennu (rhaid cael ychwanegiad am ddim – nid yw’n cyd-fynd â Word 365)

I gael rhagor o wybodaeth am Mendeley, e-bostiwch Library-EngineeringScience@swansea.ac.uk