Mae safonau'n diffinio arfer gorau mewn llawer o feysydd gwahanol. Maent yn cael eu rhoi at ei gilydd gan grwpiau o arbenigwyr ac yn dod mewn nifer o wahanol fathau, o set o ddiffiniadau i gyfres o reolau llym.
Casgliad o wybodaeth cyfeirnodi peirianneg, awdurdodol sydd yn cael ei ddiweddaru yn rheolaidd.
Yn cynnwys miloedd o adroddiadau megis proffiliau cwmni (yn cynnwys dadansoddiadau SWOT), proffiliau diwydiant, proffiliau gwlad, (yn cynnwys dadansoddiadau PESTLE), astudiaethau achos, newyddion a deliau ariannol.
Mae Knovel yn darparu cyfeiriad cyffredinol a chipolwg ar arferion gorau, cymwysiadau prosesu a dylunio, data o briodoleddau deunydd a sylwedd, a hafaliadau ar gyfer disgyblaethau peirianneg penodol.
Mae IEEE Xplore yn gronfa ddata testun llawn sy'n rhoi mynediad i holl gyfnodolion a'r rhan fwyaf o bapurau cynhadledd yr IEEE - sy'n ddefnyddiol i fyfyrwyr peirianneg drydanol, cyfrifiadureg ac electroneg.
Mae Jane’s All the World Aircraft yn gyhoeddiad hedfan blynyddol a sefydlwyd gan Fred T. Jane ym 1909. Caiff ei gyhoeddi gan Jane’s Information Group. Mae Jane’s All the World Aircraft yn darparu manylion technegol ar awyrennau sifil a milwrol sydd yn cael eu cynhyrchu a’u datblygu. Mae gwybodaeth yn cynnwys platfformau, systemau a thechnolegau, lluniau, brasluniau, cysylltiadau allweddol, rhaglenni a chwsmeriaid awyrennau.