Cofnodion hanesyddol Prifysgol Abertawe yw Archifau'r Brifysgol, sy'n ffurfio cof corfforaethol sy'n dogfennu nodau, amcanion a chyflawniadau'r Brifysgol. Maent hefyd yn cynnig cipolwg unigryw ar y bobl a'r digwyddiadau, sydd wedi helpu i siapio'r Brifysgol i'r hyn ydyw heddiw. Mae gan yr archifau botensial sylweddol ar gyfer ystod o bynciau ymchwil gan gynnwys: datblygiad disgyblaethau academaidd, hanes y corff myfyrwyr gan gynnwys recriwtio, gweithgarwch myfyrwyr a bywyd y campws, twf campws y Brifysgol, a chysylltiadau rhwng y Brifysgol a’r gymuned leol.
Mae gwaith i gatalogio casgliadau archifau'r Brifysgol yn parhau, felly cadwch lygad ar y tudalennau hyn a'n Catalog Archifau.
Ar ben y deunydd hynod ddiddorol sydd eisoes yn yr Archifau, y gobaith yw y caiff rhagor o ddeunydd archifol ei ddarganfod i gyfoethogi a datblygu'r casgliadau presennol. Os oes gennych chi neu eich adran ddeunydd sy'n ymwneud â hanes y Brifysgol, byddai'n wych pe gallech gysylltu â ni!
Sefydlwyd Coleg Prifysgol Abertawe ym 1920 gan y Siarter Frenhinol i fod yn bedwerydd coleg Prifysgol Cymru. Gosododd Brenin Siôr V garreg sylfaen y Brifysgol ar 19 Gorffennaf 1920 a chofrestrodd 89 o fyfyrwyr (gan gynnwys 8 myfyrwraig) y flwyddyn honno.
Mae'r llun uchod – ‘The Foundation Stone Ceremony, 19 July 1920’ gan Percy Gleaves - yn rhan o gasgliad celf y Brifysgol. Mae wedi cael ei adfer i'w hen ogoniant yn ddiweddar ac mae bellach yn cael ei arddangos yn Abaty Singleton i bawb ei weld.
Ym 1996 newidiodd y Brifysgol ei henw i Brifysgol Cymru Abertawe, cyn mabwysiadu'r enw Prifysgol Abertawe yn swyddogol yn 2007.
Mae Archifau’r Brifysgol yn cynnwys casgliad helaeth o Gofnodion y Llys, y Cyngor, y Senedd yn ogystal â llawer o brif bwyllgorau’r Brifysgol (1920-2022). Yn ogystal, mae archif gohebiaeth helaeth ar gyfer Cofrestrydd cyntaf y Brifysgol, Edwin Drew (1920-1952) a Phrifathro'r 1950au, J.S.Fulton (1952-1959). Mae'r rhain yn rhoi gwybodaeth fanwl am weithgareddau a digwyddiadau allweddol y Brifysgol o'r 1920au i'r 1950au.
Mae casgliadau’r Ystâd yn rhoi cipolwg ar ddatblygiad campws y Brifysgol, o Abaty Singleton yn y 1920au ac adeiladu’r llyfrgell yn 1937 i ddyluniad Tŷ Fulton yn y 1950au ac estyniad eiddo tiriog i Gampws y Bae yn y 2010au. Mae cofnodion hefyd yn cynnwys Neuaddau Preswyl, megis Castell Clun a Neuadd Beck.
Mae'r casgliadau hyn yn rhoi cipolwg ar ddatblygiad cwricwla a gweithgaredd ymchwil. Fodd bynnag, cofnod cyfyngedig sydd i rai adrannau, ond i eraill mae casgliadau helaeth. Mae'r rhain yn cynnwys y Gwyddorau (Corfforol, Cymhwysol a Naturiol) ac Athroniaeth.
Mae gan y Brifysgol archifau sy'n dyddio o'i dyddiad sefydlu yn 1920. Mae'r rhain yn adnodd cyfoethog i'r rhai sydd â diddordeb yn natblygiad y Brifysgol, ei gorffennol cymdeithasol a diwylliannol, hanes ei phensaernïaeth, a bywyd myfyrwyr.
Mae'r casgliad yn cynnwys cofnodion swyddogol pwyllgorau sefydledig y Brifysgol, ynghyd â chofnodion adrannol, gohebiaeth, lluniau a thoriadau papur newydd. Deunydd nodedig yw casgliad papur newydd Undeb y Myfyrwyr, sy'n rhoi cipolwg ar brofiad myfyrwyr ar hyd y degawdau.
Cylchgrawn Rag Undeb Myfyrwyr Prifysgol Abertawe, 1933 (Cyf. UNI/SSO/1/2)
Mae cofnodion Undeb y Myfyrwyr yn cynnwys llyfrau cofnodion y Cyngor, ffeiliau polisi, cofnodion yr Undeb Athletau rhwng 1932 a 2010 a chyhoeddiadau Undeb y Myfyrwyr.
Mae'r Archifau'n gartref i gylchgronau myfyrwyr ers dechrau'r Brifysgol yn y 1920au. Mae erthyglau, cartwnau, barddoniaeth a hysbysebion yn cynnig cipolwg gwych ar fywyd myfyrwyr yn Abertawe. Mae gennym y canlynol hefyd (gyda rhai bylchau);
Mae’r casgliad papur newydd myfyrwyr ar gael i’w gyrchu mewn fformat digidol yn ein hystafell ddarllen.
Bu’r Archifyddion Cynorthwyol Stacy O’Sullivan ac Emily Hewitt yn gweithio gydag Academi Cynwysoldeb y Brifysgol ar Pontio Diwylliannau – prosiect cyffrous gyda’r nod o addysgu, dathlu, a hysbysu myfyrwyr a staff am dderbyn a goddefgarwch pobl o gefndiroedd diwylliannol gwahanol. Roedd y prosiect yn cynnwys gweithdy am hanes profiad myfyrwyr rhyngwladol, creu recordiadau hanes llafar ac arddangosfa ffisegol ym Mhrifysgol Abertawe.
Mae’r Archifau’n cynnwys nifer o gasgliadau o gyn-staff a myfyrwyr, gan gynnwys yr athronwyr Rush Rhees a D.Z.Phillips, yr academydd a’r awdur Cymreig T.J.Morgan, a myfyriwr o’r 1920au (ac yn ddiweddarach cynhyrchydd Theatr Fach Abertawe) Ruby Graham.
Mae gan yr Archifau gasgliad helaeth o ffotograffau ar gyfer Prifysgol Abertawe, yn dyddio o'r 1920au. Mae'r pynciau'n cynnwys persbectifau o'r awyr o'r campws, adeiladau, myfyrwyr, staff, digwyddiadau ac adrannau.
Bu gweithgarwch enfawr yn yr Archifau yn y cyfnod yn arwain at ganmlwyddiant y Brifysgol yn 2020. Gwnaed gwaith i gatalogio casgliadau archifau’r Brifysgol, a derbyniasom dros hanner cant o adneuon newydd o ddeunydd yn ymwneud â’r Brifysgol rhwng 2017 a 2020.
Cefnogodd yr Archifau Dr Sam Blaxland ar ei ymchwil i hanes y Brifysgol, yn ogystal â’r prosiect hanes llafar Lleisiau Prifysgol Abertawe, 1920-2020. Cipiodd y prosiect atgofion a phrofiadau dros wyth deg o gyn-aelodau o staff a myfyrwyr Prifysgol Abertawe. Mae’r recordiadau wedi’u cadw ar gyfer y dyfodol yn Archifau’r Brifysgol, ac wedi cael sylw yng nghyhoeddiad canmlwyddiant Dr Blaxland ‘Swansea University: Campus and Community in a post-war world, 1945-2020’.
Lansiwyd arddangosfa Prifysgol Abertawe: Creu Tonnau ers 1920 yn Amgueddfa Genedlaethol y Glannau yn 2021, Abertawe. Roedd yn cynnwys ffotograffau, fideo a recordiadau hanes llafar o archifau’r Brifysgol, ail-greu ystafell wely myfyriwr o’r 1960au, map cerddoriaeth o Abertawe a model 3D rhyngweithiol o Abaty Singleton.
Ym mis Medi 2020, cymerodd yr Archifydd Cynorthwyol Emily Hewitt ran mewn cyfres o bodlediadau a recordiwyd gyda Dr Sam Blaxland ‘A History of University Life’