Skip to Main Content

Llenyddiaeth lwyd

This page is also available in English

Llenyddiaeth lwyd

Mae llenyddiaeth lwyd yn cyfeirio at ddeunydd ymchwil wedi’i gyhoeddi a heb ei gyhoeddi nad yw ar gael yn fasnachol. Mae llenyddiaeth lwyd yn gallu bod yn ffynhonnell orau ar gyfer yr ymchwil ddiweddaraf i rai testunau. Er hynny, sylwer na chaiff llenyddiaeth lwyd ei hadolygu gan gymheiriaid fel arfer, ac mae’n rhaid ystyried hynny wrth ei gwerthuso.

Enghreifftiau o lenyddiaeth lywd yw:

  • traethodau ymchwil
  • treialon clinigol
  • cylchlythyron
  • pamffledi
  • adroddiadau
  • ffeiliau ffeithiau, bwletinau
  • dogfennau’r llywodraeth
  • arolygon
  • cyfweliadau
  • papurau o gynadleddau/trafodion cynadleddau
  • gwaith cyfathrebu anffurfiol (e.e. blogiau, podlediadau, e-byst)

Bydd y canllaw hwn yn darparu ffynonellau llenyddiaeth lwyd o safon, ond nid ydynt yn holl-gynhwysfawr. Rhowch wybod inni os ydych chi’n dod o hyd i ffynhonnell a fyddai’n werth ei chynnwys yn y canllawiau yn eich tyb chi.

Cliciwch ar y tabiau eraill i weld enghreifftiau sy'n berthnasol i bob pwnc, yn ogystal â rhagor o enghreifftiau sy'n berthnasol i bynciau penodol.

Hanfodion Llyfrgell MyUni

Mae'r cwrs hwn yn cynnwys fideos a thiwtorialau a gynlluniwyd gan eich Llyfrgellwyr. Gallwch weithio'ch ffordd drwy'r cwrs cyfan i sicrhau gwybodaeth ymarferol dda o sut i ddefnyddio'r Llyfrgell. Fel arall, gallwch ddewis pa bynciau yr hoffech edrych arnynt a gallwch bob amser ddod yn ôl at y cwrs hwn pryd bynnag y dymunwch gael sesiwn gloywi.

Dosbarthiadau Sgiliau Llyfrgell