Mae'r dudalen hon yn rhoi gwybodaeth am rai o'r lleoedd i chwilio am lenyddiaeth lwyd yn y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol. Edrychwch yng Nghanllaw'r Llyfrgell sy’n benodol ar gyfer eich pwnc am ragor o wybodaeth.
I gael rhagor o gymorth a chyngor ar lenyddiaeth lwyd, cysylltwch â Thîm Pwnc y Llyfrgell ar gyfer y Dyniaethau a'r Gwyddorau Cymdeithasol: culturecommlib@swansea.ac.uk
Cyfyngir ar fynediad at LSEG Workspace. Os oes angen i chi ddefnyddio’r adnodd hwn, gofynnwch i gydlynydd eich modiwl neu oruchwyliwr eich traethawd estynedig e-bostio tîm y llyfrgell yn SoMLibrary@abertawe.ac.uk
I chwilio papurau newydd, cliciwch ar Newyddion yn y bar offer ar y brig. Neu gallwch chi glicio ar “Pob Math o Gynnwys” a dewis Newyddion cyn chwilio.
Casgliad mawr o bamffledi ar Eifftoleg a Dwyrain Agos yr henfyd oedd yn perthyn i lyfrgell bersonol Syr Alan Gardiner (1879–1963), yr Eifftolegydd o fri a’r ysgolhaig ieithyddol. Mae’r rhain yn cynnwys llawer o wahanlithoedd o gylchgronau. Mae’r pamffledi ar fenthyciad parhaol o Lyfrgell Sackler ym Mhrifysgol Rhydychen. Mae llawer o’r ysgrifeniadau mewn Almaeneg, Ffrangeg neu Eidaleg.
Mae’r casgliadau sy’n cael eu cadw yn Llyfrgell Glowyr De Cymru (wedi’i lleoli ym Mhentref Myfyrwyr Hendrefoelan) yn archwilio elfennau gwleidyddol, cymdeithasol a diwylliannol o Dde Cymru ddiwydiannol. Casgliad Maes Glo De Cymru (SWCC) yw’r casgliad ymchwil mwyaf, ond mae’r llyfrgell yn cadw nifer o gasgliadau llai sydd wedi’u rhoi gan academyddion, gwleidyddion, sefydliadau a gweithwyr.
Mae'r rhain yn darparu adnoddau ymchwil gwerthfawr ar draws nifer o ddisgyblaethau, yn cynnwys Hanes Diwydiannol, Llenyddiaeth Saesneg, Gwleidyddiaeth, Seryddiaeth ac Athroniaeth. Gweler tudalen Casgliadau Ymchwil Llyfrgell Glowyr De Cymru am ragor o wybodaeth.
Mae'r rhan fwyaf o adroddiadau cyfraith y DU ar gael ar-lein naill ai gan Westlaw UK neu LexisLibrary. Westlaw UK yw'r man cychwyn gorau ar gyfer achosion Lloegr a Chymru.
Os ydych yn cyrchu MarketLine oddi ar y campws, bydd angen i chi glicio 'Shibboleth' ar y dudalen mewngofnodi ac yna dewis Prifysgol Abertawe fel eich sefydliad.
Os ydych chi’n cyrchu Mintel oddi ar y campws, bydd yn rhaid i chi glicio ‘Federated login’ ar y dudalen fewngofnodi ac yna dewis Prifysgol Abertawe fel eich sefydliad.
Sefydliad ymchwil cymdeithasol arloesol oedd Mass Observation a sefydlwyd yn 1937 i gofnodi bywyd beunyddiol ym Mhrydain. Mae’r adnodd ar-lein hwn yn cynnwys deunydd gwreiddiol a gasglwyd gan Mass Observation rhwng 1937 a 1967, gan gynnwys dyddiaduron a holiaduron a anfonwyd i mewn gan ei banel o wirfoddolwyr ac ymchwil a gasglwyd gan ymchwilwyr cyflogedig ar ffurf adroddiadau Ffeil a chasgliadau Pwnc.
Fe’i lansiwyd ym 1981 gan Brifysgol Sussex fel ailenedigaeth yr Arsylwad Torfol gwreiddiol ym 1937, a’i nod oedd cofnodi hanes cymdeithasol Prydain drwy recriwtio gwirfoddolwyr i ysgrifennu am eu bywydau a’u barn. Yn dal i dyfu, mae’n un o’r ffynonellau pwysicaf sydd ar gael am ddata cymdeithasol ansoddol yn y DU. Mae’r casgliad hwn yn cynnwys y cyfarwyddiadau (holiaduron) a anfonwyd gan yr Arsylwad Torfol yn y 1980au a’r 1990au a’r miloedd o ymatebion iddynt gan gannoedd o Arsylwyr Torfol. Mae’r pynciau a drafodir yn amrywio’n fawr, o’r personol iawn (rhyw, teulu) i fywyd pob dydd (siopa, gwyliau) i faterion byd-eang.
Mae Llyfrau Ffynonellau Hanes y Rhyngrwyd yn darparu testunau hanesyddol copi caniataol at ddefnydd addysgol.
Mae 'Migration to New Worlds' yn edrych ar symudiad pobl o Brydain Fawr, Iwerddon, cyfandir Ewrop ac Asia i’r Byd Newydd ac Awstralasia. Canolbwyntia ar y cyfnod 1800 hyd 1924, ac mae’n cynnwys deunydd ffynonellau gwreiddiol megis: Ffeiliau'r Swyddfa Drefedigaethol ar ymfudo; Dyddiaduron a chyfnodolion teithio; Llyfrau a chynlluniau llong; Llenyddiaeth brintiedig; Gwrthrychau; Lluniau dyfrlliw a Hanesion llafar. Mae cymhorthau ymchwil eilaidd a ddetholwyd yn ofalus wedi’u cynnwys hefyd.
Cynnwys sganiau digidol o daflenni map papur OS yn cynnwys holl fapiau Cyfres Siroedd sydd ar gael ar raddfeydd 1:2,500 a 1:10560 a gyhoeddwyd rhwng 1843 a 1939 a holl fapiau’r Grid Cenedlaethol ar raddfeydd 1:1,250, 1:2,500 a 1:10560/10,000 a gyhoeddwyd o 1945 a chyn cyflwyno’r cynnyrch Llinell Tir digidol Ordnance Survey.
Mae’r safle hwn yn rhoi mynediad at gasgliadau yn y Llyfrgell Brydeinig, Llyfrgell Genedlaethol yr Alban, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Llyfrgell Gyhoeddus Efrog Newydd a sawl llyfrgell fawr yn Ewrop ac ati. Ar hyn o bryd mae’r sylw dyddio rhwng 1570au a’r 1950au.
Mae’r adnodd hwn yn cynnwys digidolion o gasgliadau diwylliant poblogaidd o’r Unol Daleithiau a’r D.U. rhwng 1950 a 1975. Daw’r deunyddiau archifol gwreiddiol dan sylw o lyfrgelloedd ac archifau amrywiol. Pynciau’n cynnwys protestiadau myfyrwyr, hawliau sifil, prynwriaeth a Rhyfel Fietnam. Mae’r casgliad yn cynnwys pamffledi, llythyrau, ffeiliau llywodraeth, cyfrifon tystion, cylchgronau dirgel, deunyddiau gweledol a fideo, effemera a phethau cofiadwy. Mae Rhan II yn cynnwys deunydd ychwanegol, megis cerddoriaeth, pecynnau'r wasg, catalogau archebu drwy'r post, proflenni hysbysebu, lluniau ychwanegol o archifau Mirrorpix, a dogfennau ar aflonyddwch myfyrwyr a'r Helyntion yng Ngogledd Iwerddon o'r Archifau Cenedlaethol.
Mae British History Online yn llyfrgell ddigidol ‘nid-er-elw’ o ffynonellau craidd printiedig uniongyrchol ac anuniongyrchol hanes Prydain o’r flwyddyn 1100 hyd at ganol yr ugeinfed ganrif, sy’n canolbwyntio ar yr Oesoedd Canol a’r cyfnod modern cynnar.
Mae English Historical Documents yn cynnwys dros 5,500 o ddogfennau hanesyddol yn dyddio rhwng y flwyddyn 500 a 1914. Bydd cyfrol newydd yn cael ei hychwanegu cyn hir, yn ymdrin â'r cyfnod rhwng 1914 a 1957. Yn ogystal â’r cyfrolau cronolegol, mae’r safle hwn yn cynnwys American Colonial Documents to 1776.
Mae’r Picture Post Historical Archive yn archif gyflawn o rifynnau’r Picture Post, o’r rhifyn cyntaf ym 1938 i’r olaf ym 1957 - y cyfan wedi’i drosi i fformat digidol mewn lliw. Mae Picture Post yn rhoi cipolwg difyr iawn ar fywyd ym Mhrydain o’r 1930au i’r 1950au, gyda miloedd o ffotograffau o bobl gyffredin yn gwneud pethau cyffredin.
Mae Findmypast yn cynnwys cofnodion genedigaethau, priodasau a marwolaethau, cofnodion plwyf, cofnodion cyfrifiad, rhestrau teithwyr ar longau yn gadael am yr UDA, Canada ac Awstralia, cofnodion milwrol, cofnodion yn ymwneud ag eglwysi, ysgolion, tlotai a nifer o sefydliadau eraill, a llawer mwy. Mae’r rhan fwyaf o’r cofnodion hyn yn ymwneud â Phrydain ac Iwerddon. Mae’r rhan fwyaf o’r cofnodion yn dyddio o’r ddwy neu dair ganrif ddiwethaf, ond mae rhai cofnodion llawer cynharach.
Daw’r casgliad hwn, o ddogfennau prif ffynhonnell Hanes America, o’r Rhyfel Cartref hyd at ganol yr ugeinfed ganrif. Fe ddaw o Gasgliad Gilder Lehrman. *Noder: Er y teitl, mae gennym fynediad ar gyfer y blynyddoedd 1860-1945 yn unig.
Mae'r cymhwysiad hwn yn caniatáu ichi gymharu mapiau geogyfeiriol dethol â'i gilydd ac â haenau map neu loeren modern mewn syllwr sgrin hollt.