Mae llawer o ffynonellau o lenyddiaeth lwyd; yr un amlycaf yw’r we. Os ydych chi’n defnyddio’r we er mwyn dod o hyd i lenyddiaeth lwyd, byddem yn eich cynghori i ddefnyddio Google advanced search yn hytrach na blwch chwilio arferol Google neu Google Scholar. Mae’n rhaid i strategaeth chwilio fod yn gadarn, er mwyn iddi gael credadwyedd ac er mwyn i bobl eraill allu ei hail-adrodd. O ganlyniad, Google Advanced yw’r dewis gorau ymhlith gwasanaethau Google, oherwydd er nad ydym yn gwybod sut mae Google yn cynhyrchu canlyniadau, o leiaf fod gan Google advanced search fframwaith / strwythur yn y chwiliad nad yw’n ymddangos yn Google Scholar, er enghraifft.
Ceir ffynonellau eraill isod y byddant yn eich helpu i ddod o hyd i lenyddiaeth lwyd.
Gwasanaeth mynegeio dyfyniadau gwyddonol sy'n darparu gwasanaeth cynhwysfawr i chwilio am ddyfyniadau. Mae'n rhoi mynediad i nifer o gronfeydd data sy'n cyfeirnodi ymchwil trawsddisgyblaethol ac yn caniatáu chwiliadau manwl o is-feysydd arbenigol o fewn disgyblaeth academaidd neu wyddonol.