Mae Casgliad Maes Glo De Cymru yn adnodd ymchwil sy'n bwysig yn rhyngwladol. Mae'r casgliad yn rhoi darlun unigryw o fywyd yng nghymoedd y meysydd glo ar ddiwedd y 19eg a'r 20fed ganrif, gan ganolbwyntio ar y gweithwyr a'r sefydliadau a grëwyd ganddynt. Mae'n cynnwys cofnodion o undebau llafur, yn enwedig Undeb Cenedlaethol y Glowyr (ardal De Cymru), sefydliadau glowyr, cymdeithasau cydweithredol, ac unigolion sy'n gysylltiedig â'r gymuned lofaol.
Mae'r casgliad wedi ei rannu ar draws dau safle—
Gallwch bori drwy'r wefan i chwilio am Gasgliad Maes Glo De Cymru gan ddefnyddio Gwefan Deunyddiau We’r Meysydd Glo a gwefan Casgliad Maes Glo De Cymru. Am gyngor ar chwilio, a mwy o wybodaeth am gofnodion a phynciau ymchwil, cysylltwch â ni.
Roedd institiwts y glowyr yn ganolbwynt cymdeithasol a diwylliannol i'r glowyr a'u teuluoedd, gan ddarparu cyfleusterau addysgol, darpariaethau lles a gweithgareddau hamdden, gan gynnwys eisteddfodau a galas y glowyr.
Roedd yr institiwts yn adlewyrchu’n gryf rôl y gymuned, ond daethant hefyd yn ganolbwynt ar gyfer eu hardaloedd. Fe'u hariannwyd yn bennaf gan y glowyr eu hunain, nes i Ddeddf Lles y Glowyr gael ei chyflwyno yn 1920 a oedd yn cynnig mwy o gymorth.
Mae'r cofnodion yn cynnwys institiwts y glowyr, cymdeithasau lles, cymdeithasau cyfeillgar, cronfeydd tlodi, ac ysbytai gweithwyr.
Mae gan y mudiad cydweithredol yng Nghymru hanes hir a nodedig. Gan ddilyn ôl traed y ‘Rochdale Society of Equitable Pioneers’, sy’n cael ei hystyried fel y fenter gydweithredol lwyddiannus gyntaf, cafwyd presenoldeb cydweithredol cyson yn ne Cymru ers y 1860au. Ers dros ganrif roedd wedi'i gwreiddio'n ddwfn mewn diwylliant lleol, ac roedd yn ffenomen economaidd a chymdeithasol sylweddol.
Mae gennym gofnodion Cymdeithasau Cydweithredol oedd wedi eu lleoli yn ardaloedd glofaol rhanbarth De Cymru o'r ‘Co-operative Union Limited’. Mae hyn yn cynnwys llyfrau cofnodion, cofnodion ariannol a chofnodion gweinyddol. Yn ogystal, mae'r archif hefyd yn cynnwys cyfnodolion, bwletinau a deunydd print arall a gyhoeddwyd gan Y ‘Co-operative Wholesale Society Limited’ a’r Co-operative Union Limited, a oedd ar gyfer y mudiad cydweithredol yn ei gyfanrwydd.
Mae'r casgliad o luniau yn cynnwys dros 4,000 o luniau sy'n ymwneud â sawl agwedd ar y diwydiant glo a bywyd cymunedol De Cymru.
Maent yn dangos anghydfodau a streiciau o anghydfod y ‘Cambrian Combine’ yn 1910-1911 i Streic y Glowyr yn 1984-1985. Mae llawer o'r lluniau’n gysylltiedig ag Undeb Cenedlaethol y Glowyr (ardal De Cymru) ac yn cynnwys delweddau o arweinwyr, dirprwyaethau, institiwts ac aelodau cyfrinfeydd. Ceir hefyd luniau o dîmau chwaraeon lleol, corau, cymdeithasau dramatig ac o weithgareddau cymdeithasol eraill yn y cymunedau gan gynnwys galas ac eisteddfodau.
Yn ogystal, ceir lluniau o byllau glo, gwirfoddolwyr yn Rhyfel Cartref Sbaen a lluniau topograffig o gymoedd De Cymru. Rydym hefyd yn cadw casgliadau ffotograffig personol, gan gynnwys rhai Arthur Horner a Glyn Williams
Mae'r casgliadau personol yn cynnwys deunydd archifol sydd wedi'i gyflwyno i ni gan bobl a oedd yn gysylltiedig â Maes Glo De Cymru. Daw'r deunydd o amrywiaeth o unigolion, gan gynnwys Aelodau Seneddol a'r rhai oedd yn gweithio yn y pyllau glo.
Mae'r casgliadau yn adlewyrchu bywydau a diddordebau pobl oedd yn gysylltiedig â Maes Glo De Cymru a'i gymunedau. Mae enghreifftiau yn cynnwys gohebiaeth, papurau newydd, copïau o areithiau, nodiaduron ac eraill.
Ffurfiwyd Ffederasiwn Glowyr Prydain Fawr (MFGB) ym 1889 ac wedi hynny daeth yn Undeb Cenedlaethol y Glowyr (NUM) ar 1 Ionawr 1945. Datblygodd yn sgil blynyddoedd lawer o weithgareddau undebau llafur glofaol rhanbarthol a’u gofynion, ac mae'n parhau i fod yn sefydliad gweithredol heddiw.
Mae cofnodion gweinyddiaeth ganolog NUM (Ardal De Cymru) yn cynnwys llyfrau cofnodion a chyfrifon, a gohebiaeth yn ymwneud ag ystod eang o bynciau sy'n effeithio ar y diwydiant glofaol.
Roedd gan bob glofa (neu bwll) Gyfrinfa neu Gangen, sef canghennau cyswllt lleol Undeb Cenedlaethol y glowyr (a'i ragflaenydd Ffederasiwn Glowyr De Cymru (SWMF). Roedd y gyfrinfa’n cynrychioli’r gweithwyr gerbron y rheolwyr, ac roedd yn ganolbwynt economaidd a bargeinio trefnus iddynt ar lefel leol.
Mae'r papurau'n cynnwys llyfrau cofnodion, gohebiaeth, papurau ariannol ac ati.