I fewnosod:
1. Rhifau uwchysgrif:
Ewch i'r man yn eich testun lle rydych am gyfeirio at syniad rhywun arall, cliciwch ar y tab References, yna cliciwch ar yr eicon Insert Footnote a bydd MS Word yn gosod rhif uwchysgrif wrth y dyfyniad hwnnw.
2. Troednodiadau:
Bydd MS Word wedi dyblygu'r rhif uwchysgrif a ddyrannwyd ar waelod y dudalen a bydd wedi gosod eich cyrchwr ar ei ôl. Y cyfan sydd angen i chi ei wneud yw rhoi'r manylion ar ffurf troednodyn.