Dyma bwyntiau allweddol i'w cofio wrth greu eich llyfryddiaeth:
- Dechreuwch ar dudalen newydd
- Rhestrwch yr holl ffynonellau rydych wedi'u dyfynnu ar ffurf llyfryddiaeth
- Rhowch yn nhrefn yr wyddor yn ôl Cyfenw'r Awduron
- Defnyddiwch ofod dwbl
- Defnyddiwch fewnoliadau crog (dylai cofnodion gael eu mewnoli ar ôl y llinell gyntaf). (I wneud hyn bydd angen i chi osod eich cyrchwr ar ddechrau'r ail linell a phwyso'r bysellau Ctrl a Tab gyda'i gilydd.)
- Rhestrwch y prif ffynonellau, yn nhrefn yr wyddor, mewn rhan ar wahân o'r Llyfryddiaeth sef 'Prif Ffynonellau'.