Mae gan Nexis archifau y gellir eu chwilio sy'n cynnwys cannoedd o bapurau newydd a ffynonellau newyddion eraill o nifer o wledydd, gan gynnwys Ffrainc, yr Almaen, yr Eidal, Sbaen, yr Unol Daleithiau a'r Deyrnas Unedig. Mae'n cynnwys testun y rhan fwyaf o'r erthyglau mewn llawer o bapurau newydd o ddechrau'r 1990au hyd at heddiw. Mae'n cynnwys ychydig o bapurau newydd o'r 1970au a'r 1980au.
The Financial Times - un o sefydliadau newyddion busnes mwyaf blaenllaw'r byd. Mae'n cael ei gydnabod yn rhyngwladol am ei awdurdod, ei uniondeb a'i gywirdeb. Mae'n darparu newyddion, sylwadau, data a dadansoddiad hanfodol i'r gymuned fusnes fyd-eang.
The Economist - cylchgrawn wythnosol yw hwn sy'n ymdrin â busnes, cyllid, economeg, gwyddoniaeth, technoleg a'r celfyddydau. Gellir dod o hyd i erthyglau o The Economist yng nghasgliad busnes ProQuest.
Yn ogystal â chynnwys erthyglau o The Economist, mae ProQuest Business Collection yn darparu mynediad i eitemau newyddion eraill. Chwiliwch gan ddefnyddio'ch allweddeiriau, wedyn mireiniwch eich chwiliad gan ddefnyddio Source Type ar ochr dde'r dudalen canlyniadau.
Mae’r ProQuest Business Collection yn rhoi mynediad i chwe cronfa ddata fusnes allweddol: ABI Inform Complete, Cyfrifyddu a Threth, Ffynhonnell Gwybodaeth Bancio, Llyfryddiaeth Ryngwladol Gwyddorau Cymdeithasol (IBSS), Accounting and Tax, Banking Information Source, International Bibliography of the Social Sciences (IBSS), ProQuest Asian Business and Reference, a ProQuest Entrepreneurship.
Mae’r safle UKPressOnline yn rhoi mynediad i destun llawn (ffacsimilïau tudalen lawn) i'r Daily Express o 1900 hyd heddiw. Mae’n cynnwys hefyd y Sunday Express a Daily Star (o 2000 hyd heddiw) a Star Sunday (o 2002 hyd heddiw). Gellir gweld pob rhifyn fel y byddai wedi'i gyhoeddi'n wreiddiol (ynghyd â ffotograffau, lluniau, hysbysebion etc.).
Mae Welsh Newspapers Online yn cynnig mynediad am ddim i thua 120 o bapurau newydd Cymreig gan ddyddio’n ôl i 1919. Mae’n cynnwys y rhan fwyaf o The Cambrian rhwng 1804 a 1910.
Mae’r cynnig yn rhoi mynediad at destun llawn papurau newydd, gwefannau newyddion a blogiau gan gyhoeddwyr blaenllaw drwy’r byd. Mae’n cynnwys ffeil wrth gefn ar gyfer y rhan fwyaf o bapurau newydd, gan ddarparu mynediad at erthyglau, colofnau, erthyglau golygyddol, coflithoedd a nodweddion a gyhoeddwyd ym mhob papur. Mae’r papurau newydd mawr yn cynnwys y New York Times, Wall Street Journal, Chicago Tribune, Washington Post, USA Today, Los Angeles Times, Boston Globe, The Guardian a llawer mwy o deitlau cenedlaethol a rhanbarthol eraill.
Adnodd sy’n croes chwilio Casgliad Burney o’r 17eg-18fed Ganrif, Cyfnodolion y DU o’r 19eg Ganrif, Papurau Newydd y Llyfrgell Brydeinig, Picture Post ac Archif Ddigidol The Times.
Mae’r Llyfrgell yn cadw holl draethodau hir Prifysgol Abertawe ar lefel ddoethuriaeth a rhai enghreifftiau meistr hefyd. Nid ydym fel arfer yn cadw prosiectau na thraethodau trydedd flwyddyn. Cedwir y rhan fwyaf o’n traethodau hir ar glo ar Gampws Parc Singleton.
Ceir gwybodaeth am yr holl draethodau ymchwil a dderbynnir gan y llyfrgell yn iFind, catalog y llyfrgell.
Ym mlwch chwilio iFind, gallwch chwilio ar sail allweddair ar gyfer eich pwnc a'r geiriau: swansea thesis. Yna gallwch ddefnyddio'r bar Mireinio i gyfyngu'r chwiliad i ystod blynyddoedd neu Golegau penodol. Os oes gennych ddiddordeb penodol mewn traethodau ymchwil diweddar, gallwch newid y fwydlen Didoli yn ôl (Sort By) ar ben y rhestr o ganlyniadau i Dyddiad diweddaraf i hynaf (Date descending) i osod y rhai diweddaraf ar frig y rhestr.
I gyfeirio atynt yn unig mae traethodau hir ac ni ddylid eu cymryd allan o’r llyfrgell.
Gofynnwch wrth y Ddesg Wybodaeth os hoffech ddarllen y traethawd hir.
iFind, sef catalog y llyfrgell, yw’r brif ffordd o chwilio am adnoddau a ddarperir gan Lyfrgell Prifysgol Abertawe.
ProQuest Dissertations & Theses Global yw casgliad mwyaf cynhwysfawr y byd o draethodau hir a thraethodau ymchwil o bob cwr o’r byd, yn dyddio o 1743 hyd at heddiw. Mae’n cynnig mynediad testun llawn i waith graddedigion a ychwanegwyd ar ôl 1997, a mynediad testun llawn i ddetholiad o waith raddedigion a ychwanegwyd cyn 1997. Mae’n cynnwys nifer sylweddol o draethodau hir a thraethodau ymchwil rhyngwladol newydd ar ffurf dyfyniadau a thestun llawn.
Mae EThOS wedi’i greu i gynnig un pwynt mynediad i draethodau ymchwil y DU ac yn chwarae rôl arwyddocaol wrth arddangos ymchwil y DU i’r byd. Mae gan EThOS, a gynhelir gan y Lyfrgell Brydeinig, fwy na 100 o brifysgolion y DU ynghlwm yn y prosiect. Gall gynnig ystod eang iawn o deitlau fel lawrlwythiadau testun llawn. Os bydd eitem rydych ei hangen eisoes yn EThOS yna mae ar gael i’w lawrlwytho i’ch bwrdd gwaith ar unwaith am ddim; os nad ydyw, gallwch brynu copi wedi’i sganio oddi wrth EThOS.