Dyma Ganllaw y Llyfrgell ar gyfer yr Ysgol Reolaeth, sy’n cynnwys y rhaglenni Cyfrifeg a Chyllid, Rheoli Busnes ac Marchnata.
Mae'r cwrs hwn yn cynnwys fideos a thiwtorialau a gynlluniwyd gan eich llyfrgellwyr, a byddant yn eich helpu i fanteisio i'r eithaf ar y llyfrgell, ar-lein ac ar y campws. Gallwch chi weithio eich ffordd drwy'r cwrs cyfan drwy glicio ar bob un o'r blychau isod. Pan fyddwch chi wedi cwblhau'r cwrs, bydd gennych chi wybodaeth ymarferol dda am sut i ddefnyddio'r Llyfrgell. Fel arall, gallwch chi ddewis a dethol pa bynciau rydych chi am eu hystyried o'r opsiynau isod. Ni waeth sut rydych chi'n dewis dysgu, gallwch chi bob amser fynd yn ôl a defnyddio'r cwrs hwn pryd bynnag y bydd angen cwrs gloywi arnoch.
Business Source Complete yw cronfa ddata fusnes ysgolheigaidd ddiffiniol y byd. Mae’n darparu y prif gasgliad o gynnwys llyfryddiaethol a thestun llawn. Fel rhan o’r sylw cynhwysfawr a gynigir gan y gronfa ddata hon, ceir mynegai a chrynodebau ar gyfer y cyfnodolion busnes ysgolheigaidd pwysicaf sy’n dyddio yn ôl i 1886. At hyn, darperir cyfeirnodau chwilio a nodwyd ar gyfer dros 1,300 o gyfnodolion.
Yn cynnwys miloedd o adroddiadau megis proffiliau cwmni (yn cynnwys dadansoddiadau SWOT), proffiliau diwydiant, proffiliau gwlad, (yn cynnwys dadansoddiadau PESTLE), astudiaethau achos, newyddion a deliau ariannol.
Mae’r ProQuest Business Collection yn rhoi mynediad i chwe cronfa ddata fusnes allweddol: ABI Inform Complete, Cyfrifyddu a Threth, Ffynhonnell Gwybodaeth Bancio, Llyfryddiaeth Ryngwladol Gwyddorau Cymdeithasol (IBSS), Accounting and Tax, Banking Information Source, International Bibliography of the Social Sciences (IBSS), ProQuest Asian Business and Reference, a ProQuest Entrepreneurship.
Mae gan Statista ffocws byd-eang ac mae'n rhoi'r ffeithiau a'r data diweddaraf a mwyaf perthnasol am farchnadoedd, defnyddwyr a diwydiannau. Mae'n cynnwys 1.9m o ystadegau, rhagolygon ac astudiaethau ynghylch 80,000 o bynciau a 170 o ddiwydiannau ledled y byd. Mae modd lawrlwytho data'n hawdd i'r rhan fwyaf o fformatau cyffredin.
Mae'r gwaith hwn wedi'i drwyddedu o dan Drwydded Ryngwladol Creative Commons Attribution-ShareAlike 4.0.