Mae Education Research Complete yn cynnwys amrywiaeth o bynciau a phob lefel addysg o'r blynyddoedd cynnar i addysg uwch. Mae'r cynnwys yn cwmpasu cyfnodolion academaidd, cylchgronau addysgu a phapurau cynhadledd.
Mae JSTOR yn cynnwys testun llawn cyfnodolion, fel arfer o'r rhifyn cyntaf hyd at oddeutu 5 mlynedd yn ôl. Ar gyfer rhifynnau mwy diweddar, yn aml darperir dolenni i destun llawn erthyglau ar wefannau allanol. Mae'r pynciau'n cynnwys ecoleg, economeg, addysg, cyllid, hanes, iaith a llenyddiaeth, mathemateg ac ystadegau, athroniaeth, cymdeithaseg, anthropoleg, gwleidyddiaeth ac astudiaethau poblogaeth.
Mae’r gronfa ddata hon yn crynhoi a mynegeio y llenyddiaeth ryngwladol mewn ieithyddiaeth a disgyblaethau perthnasol yn y gwyddorau iaith. Mae’r gronfa ddata yn gofalu am bob agwedd o’r iaith astudio gan gynnwys seineg, ffonoleg, morffoleg, cystrawen a semanteg. Mae dogfennau yn y mynegai yn cynnwys erthyglau cyfnodolion, adolygiadau llyfrau, llyfrau, penodau llyfrau, traethodau hir a phapurau gwaith.
Mae MLA International Bibliography yn rhoi manylion y rhan fwyaf o erthyglau mewn cyfnodolion a llyfrau ar ieithoedd modern a'u llenyddiaeth (gan gynnwys Saesneg) o'r 1920au hyd y presennol. Mae hefyd yn cynnwys llawer o erthyglau mewn cyfnodolion a llyfrau am ieithyddiaeth, llên gwerin a ffilmiau. Nid yw'n cynnwys adolygiadau o lyfrau. Mae'n rhan o Wasanaeth Cronfa Ddata Proquest ar gyfer y Gwyddorau Cymdeithasol a'r Dyniaethau.
Gwasanaeth mynegeio dyfyniadau gwyddonol sy'n darparu gwasanaeth cynhwysfawr i chwilio am ddyfyniadau. Mae'n rhoi mynediad i nifer o gronfeydd data sy'n cyfeirnodi ymchwil trawsddisgyblaethol ac yn caniatáu chwiliadau manwl o is-feysydd arbenigol o fewn disgyblaeth academaidd neu wyddonol.
Mae’r holl gyfnodolion rydym yn tanysgrifio iddynt wedi’u rhestru ar iFind, catalog y llyfrgell. Os oes gennych gyfeirnod ar restr ddarllen ayyb gallwch fynd yn syth i iFind i wneud chwiliad ‘Teitl Cyfnodolyn’ am y cyfnodolyn. Mae iFind hefyd yn cynnwys manylion am erthyglau unigol - cliciwch ar y tab ‘Erthyglau a Mwy’ i chwilio am y rhain. Os ydych eisiau chwilio am erthyglau am bwnc penodol dewiswch ‘rhywle yn y cofnod’. Os ydych eisiau chwilio am erthygl benodol, dewiswch ‘yn y teitl’ a mewnbynnwch deitl yr erthygl. Gallwch hefyd chwilio am erthyglau gan awdur penodol, dewiswch ‘fel awdur/crëwr’ i wneud hyn. Noder: Bydd eich canlyniadau yn cynnwys erthyglau o bapurau newydd yn ogystal â rhai o gyfnodolion.
Er eich bod yn gallu defnyddio iFind i ddod o hyd i erthyglau cyfnodolion ar bwnc penodol neu gan awdur arbennig, os ydych eisiau gwneud chwiliad mwy manwl mae’n well i chi ddefnyddio’r cronfeydd data electronig. Mae rhai o’r cronfeydd data hyn (e.e. JSTOR) yn cynnwys erthyglau testun llawn, tra bod eraill (e.e. Web of Science) yn cynnwys dyfyniad (neu gofnod) a chrynodeb o’r erthygl. Yn yr achos hwn byddwch yn aml yn gweld cyswllt 'iGetIt@Swansea University' y gallwch glicio arno i weld a oes gennym yr erthygl yn llawn. Gallwch roi cynnig ar yr ymarfer ar-lein hwn i wella’ch sgiliau chwilio ac arfer chwilio am erthyglau cyfnodolion.
Cyfnodolion Print
Gallwch ddod o hyd i’r mwyafrif o gyfnodolion Saesneg ac Ieithyddiaeth (ar ffurf print) rhwng P a PR ar Lefel 1 Gorllewin.