Ceir papurau newydd diweddar (3 mis diwethaf yn unig) fel Le Monde: sélection hebdomadaire, ar y Rac Newyddion ar Lefel 4 Gorllewin (yr Oriel).
Am ôl-rifynnau a detholiad ehangach o bapurau newydd defnyddiwch y cronfeydd data isod.
Mae gan Nexis archifau y gellir eu chwilio sy'n cynnwys cannoedd o bapurau newydd a ffynonellau newyddion eraill o nifer o wledydd, gan gynnwys Ffrainc, yr Almaen, yr Eidal, Sbaen, yr Unol Daleithiau a'r Deyrnas Unedig. Mae'n cynnwys testun y rhan fwyaf o'r erthyglau mewn llawer o bapurau newydd o ddechrau'r 1990au hyd at heddiw. Mae'n cynnwys ychydig o bapurau newydd o'r 1970au a'r 1980au.
Mae Archif The Times yn cynnwys papur newydd The Times yn ei gyfanrwydd, o'i ddechrau ym 1785 hyd at 2019, gan gynnwys erthyglau, ffotograffau, llythyron a hysbysebion.
Mae EThOS wedi’i greu i gynnig un pwynt mynediad i draethodau ymchwil y DU ac yn chwarae rôl arwyddocaol wrth arddangos ymchwil y DU i’r byd. Mae gan EThOS, a gynhelir gan y Lyfrgell Brydeinig, fwy na 100 o brifysgolion y DU ynghlwm yn y prosiect. Gall gynnig ystod eang iawn o deitlau fel lawrlwythiadau testun llawn. Os bydd eitem rydych ei hangen eisoes yn EThOS yna mae ar gael i’w lawrlwytho i’ch bwrdd gwaith ar unwaith am ddim; os nad ydyw, gallwch brynu copi wedi’i sganio oddi wrth EThOS.
ProQuest Dissertations & Theses Global yw casgliad mwyaf cynhwysfawr y byd o draethodau hir a thraethodau ymchwil o bob cwr o’r byd, yn dyddio o 1743 hyd at heddiw. Mae’n cynnig mynediad testun llawn i waith graddedigion a ychwanegwyd ar ôl 1997, a mynediad testun llawn i ddetholiad o waith raddedigion a ychwanegwyd cyn 1997. Mae’n cynnwys nifer sylweddol o draethodau hir a thraethodau ymchwil rhyngwladol newydd ar ffurf dyfyniadau a thestun llawn.
Rhowch gynnig ar ein canllaw ar ddod o hyd i Draethodau Hir.