Darpara’r dudalen hon ddolenni i wefannau ac adnoddau defnyddiol ar gyfer cael mynediad at ddeunydd ffynonellau. Mae’r rhain yn cynnwys cyhoeddiadau swyddogol, dadleuon seneddol (Hansard), llythyrau, lluniau, posteri, pamffledi, clipiau fideo a sain. Dalier sylw fod yr adnoddau a dynnir sylw atynt isod yn ddetholiad. Cliciwch ar y tab Adnoddau Pwnc i weld rhestr lawnach.
Llun drwy garedigrwydd Mass Observation Online
Mae British History Online yn llyfrgell ddigidol ‘nid-er-elw’ o ffynonellau craidd printiedig uniongyrchol ac anuniongyrchol hanes Prydain o’r flwyddyn 1100 hyd at ganol yr ugeinfed ganrif, sy’n canolbwyntio ar yr Oesoedd Canol a’r cyfnod modern cynnar.
Mae Historical Texts (a elwid gynt yn JISC Historic Books) yn cynnwys testun llawn neu ddelweddau tudalennau o lyfrau a gyhoeddwyd cyn 1800. Mae'r gronfa ddata yn dwyn ynghyd gynnwys o Eighteenth Century Collections Online (ECCO) a Early English Books Online (EEBO). Casgliad digidol o weithiau yw ECCO a gyhoeddwyd ym Mhrydain Fawr a'i threfedigaethau yn ystod y ddeunawfed ganrif. Mae'r casgliad yn cynnwys llyfrau yn Saesneg, Iseldireg, Ffrangeg, Almaeneg, Eidaleg, Lladin, Sbaeneg a Chymraeg. Mae EEBO yn cynnwys y delweddau wedi'u sganio ac (yn gynyddol) fersiynau digidol testun llawn o lyfrau a gyhoeddwyd yn Saesneg, Cymraeg, Lladin ac ieithoedd eraill hyd at 1700. Mae'r gronfa ddata hefyd yn cynnwys llyfrau o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg o gasgliad y Llyfrgell Brydeinig a Llyfrgell Treftadaeth Feddygol y DU (UKMHL).
Sefydliad ymchwil cymdeithasol arloesol oedd Mass Observation a sefydlwyd yn 1937 i gofnodi bywyd beunyddiol ym Mhrydain. Mae’r adnodd ar-lein hwn yn cynnwys deunydd gwreiddiol a gasglwyd gan Mass Observation rhwng 1937 a 1967, gan gynnwys dyddiaduron a holiaduron a anfonwyd i mewn gan ei banel o wirfoddolwyr ac ymchwil a gasglwyd gan ymchwilwyr cyflogedig ar ffurf adroddiadau Ffeil a chasgliadau Pwnc.
Fe’i lansiwyd ym 1981 gan Brifysgol Sussex fel ailenedigaeth yr Arsylwad Torfol gwreiddiol ym 1937, a’i nod oedd cofnodi hanes cymdeithasol Prydain drwy recriwtio gwirfoddolwyr i ysgrifennu am eu bywydau a’u barn. Yn dal i dyfu, mae’n un o’r ffynonellau pwysicaf sydd ar gael am ddata cymdeithasol ansoddol yn y DU. Mae’r casgliad hwn yn cynnwys y cyfarwyddiadau (holiaduron) a anfonwyd gan yr Arsylwad Torfol yn y 1980au a’r 1990au a’r miloedd o ymatebion iddynt gan gannoedd o Arsylwyr Torfol. Mae’r pynciau a drafodir yn amrywio’n fawr, o’r personol iawn (rhyw, teulu) i fywyd pob dydd (siopa, gwyliau) i faterion byd-eang.
Mae English Historical Documents yn cynnwys dros 5,500 o ddogfennau hanesyddol yn dyddio rhwng y flwyddyn 500 a 1914. Bydd cyfrol newydd yn cael ei hychwanegu cyn hir, yn ymdrin â'r cyfnod rhwng 1914 a 1957. Yn ogystal â’r cyfrolau cronolegol, mae’r safle hwn yn cynnwys American Colonial Documents to 1776.
Mae Llyfrau Ffynonellau Hanes y Rhyngrwyd yn darparu testunau hanesyddol copi caniataol at ddefnydd addysgol.
Mae’r Picture Post Historical Archive yn archif gyflawn o rifynnau’r Picture Post, o’r rhifyn cyntaf ym 1938 i’r olaf ym 1957 - y cyfan wedi’i drosi i fformat digidol mewn lliw. Mae Picture Post yn rhoi cipolwg difyr iawn ar fywyd ym Mhrydain o’r 1930au i’r 1950au, gyda miloedd o ffotograffau o bobl gyffredin yn gwneud pethau cyffredin.
Mae 'Migration to New Worlds' yn edrych ar symudiad pobl o Brydain Fawr, Iwerddon, cyfandir Ewrop ac Asia i’r Byd Newydd ac Awstralasia. Canolbwyntia ar y cyfnod 1800 hyd 1924, ac mae’n cynnwys deunydd ffynonellau gwreiddiol megis: Ffeiliau'r Swyddfa Drefedigaethol ar ymfudo; Dyddiaduron a chyfnodolion teithio; Llyfrau a chynlluniau llong; Llenyddiaeth brintiedig; Gwrthrychau; Lluniau dyfrlliw a Hanesion llafar. Mae cymhorthau ymchwil eilaidd a ddetholwyd yn ofalus wedi’u cynnwys hefyd.
Cynnwys sganiau digidol o daflenni map papur OS yn cynnwys holl fapiau Cyfres Siroedd sydd ar gael ar raddfeydd 1:2,500 a 1:10560 a gyhoeddwyd rhwng 1843 a 1939 a holl fapiau’r Grid Cenedlaethol ar raddfeydd 1:1,250, 1:2,500 a 1:10560/10,000 a gyhoeddwyd o 1945 a chyn cyflwyno’r cynnyrch Llinell Tir digidol Ordnance Survey.
Mae’r safle hwn yn rhoi mynediad at gasgliadau yn y Llyfrgell Brydeinig, Llyfrgell Genedlaethol yr Alban, Llyfrgell Genedlaethol Cymru, Llyfrgell Gyhoeddus Efrog Newydd a sawl llyfrgell fawr yn Ewrop ac ati. Ar hyn o bryd mae’r sylw dyddio rhwng 1570au a’r 1950au.
Mae'r cymhwysiad hwn yn caniatáu ichi gymharu mapiau geogyfeiriol dethol â'i gilydd ac â haenau map neu loeren modern mewn syllwr sgrin hollt.
Mae’r adnodd hwn yn cynnwys digidolion o gasgliadau diwylliant poblogaidd o’r Unol Daleithiau a’r D.U. rhwng 1950 a 1975. Daw’r deunyddiau archifol gwreiddiol dan sylw o lyfrgelloedd ac archifau amrywiol. Pynciau’n cynnwys protestiadau myfyrwyr, hawliau sifil, prynwriaeth a Rhyfel Fietnam. Mae’r casgliad yn cynnwys pamffledi, llythyrau, ffeiliau llywodraeth, cyfrifon tystion, cylchgronau dirgel, deunyddiau gweledol a fideo, effemera a phethau cofiadwy. Mae Rhan II yn cynnwys deunydd ychwanegol, megis cerddoriaeth, pecynnau'r wasg, catalogau archebu drwy'r post, proflenni hysbysebu, lluniau ychwanegol o archifau Mirrorpix, a dogfennau ar aflonyddwch myfyrwyr a'r Helyntion yng Ngogledd Iwerddon o'r Archifau Cenedlaethol.
Daw’r casgliad hwn, o ddogfennau prif ffynhonnell Hanes America, o’r Rhyfel Cartref hyd at ganol yr ugeinfed ganrif. Fe ddaw o Gasgliad Gilder Lehrman. *Noder: Er y teitl, mae gennym fynediad ar gyfer y blynyddoedd 1860-1945 yn unig.
Mae Findmypast yn cynnwys cofnodion genedigaethau, priodasau a marwolaethau, cofnodion plwyf, cofnodion cyfrifiad, rhestrau teithwyr ar longau yn gadael am yr UDA, Canada ac Awstralia, cofnodion milwrol, cofnodion yn ymwneud ag eglwysi, ysgolion, tlotai a nifer o sefydliadau eraill, a llawer mwy. Mae’r rhan fwyaf o’r cofnodion hyn yn ymwneud â Phrydain ac Iwerddon. Mae’r rhan fwyaf o’r cofnodion yn dyddio o’r ddwy neu dair ganrif ddiwethaf, ond mae rhai cofnodion llawer cynharach.
Mae’r wefan hon yn rhoi mynediad i Hansard ei hun. Mae hyn yn ôl cyfrol, dim ond eisteddiadau’r Arglwyddi, y Tŷ Cyffredin neu Neuadd San Steffan. Gallwch hefyd weld Atebion Ysgrifenedig, Datganiadau Ysgrifenedig, adroddiadau Arglwyddi neu adroddiadau yr Uwch Bwyllgor.
Mae’r canllaw hwn yn rhoi manylion am gyhoeddiadau gan lywodraeth Prydain, y Senedd a Chynulliad Cenedlaethol Cymru. Gallwch gael mynediad ato ar-lein neu yn y Llyfrgell a’r Ganolfan Wybodaeth.
Canllaw i gyhoeddiadau Llywodraeth a Senedd Prydain.
Rhy’r Archif Ddigidol ar Ddiogelwch Gwladol fynediad at ddogfennau llywodraeth yr Unol Daleithiau sydd wedi’u diogelu, i ddarparu deunydd ffynhonnell sylfaenol er mwyn symud ymlaen ag ymchwil ym maes hanes, gwleidyddiaeth, a chysylltiadau rhyngwladol yr ugeinfed a'r unfed ganrif ar hugain. Mae'r dogfennau sydd wedi’u digideiddio ar gael mewn mwy na 40 o gasgliadau sy’n seiliedig ar bynciau, ac ychwanegir dau gasgliad newydd bob blwyddyn.