Llyfrau
Mae'r rhan fwyaf o'r llyfrau a ddefnyddir wrth astudio Hanes yn cael eu cadw ar Lefel 2 Adain y Gorllewin yn y Llyfrgell a Chanolfan Wybodaeth. Mae rhifau galw'r llyfrau hyn yn amrywio, fel rheol, rhwng C ac F. Mae'r rhan fwyaf o lyfrau ar gyfer Hanes Cymru ar gael yn y Casgliad Cymreig ar lefel 2 Adain y Gorllewin ac mae eu rhifau galw'n cynnwys W/DA. Mae rhai llyfrau am hanes milwrol ar gael yn adran U sydd ar Lefel 2 Adain y Dwyrain. Mae rhai llyfrau am hanes meddygaeth (e.e. llyfrau am y Pla Du etc) ar gael yn adran R ar Lefel 2 Adain y Dwyrain.
C-F
|
Hanes |
Lefel 2 Adain y Gorllewin |
D
|
Hanes - Cyffredinol |
Lefel 2 Adain y Gorllewin |
DA
|
Hanes - Prydain |
Lefel 2 Adain y Gorllewin |
DB-DR
|
Hanes - Ewrop |
Lefel 2 Adain y Gorllewin |
DE-DG
|
Hanes - Groeg a Rhufain |
Lefel 2 Adain y Gorllewin |
|
Hanes - Asia, Affrica, Awstralia |
Lefel 2 Adain y Gorllewin |
E
|
Hanes - Gogledd America |
Lefel 2 Adain y Gorllewin |
F
|
Hanes - Cyfandiroedd America |
Lefel 2 Adain y Gorllewin |
HC-HD
|
Hanes Economaidd |
Lefel 2 Adain y Gorllewin |
J
|
Gwleidyddiaeth |
Lefel 1 Adain y Gorllewin |
W/DA
|
Hanes - Cymru |
Lefel 2 Adain y Gorllewin |
U
|
Hanes Milwrol |
Lefel 2 Adain y Dwyrain |
R
|
Hanes Meddygaeth |
Lefel 2 Adain y Dwyrain |
Gellir dod o hyd i’r rhan fwyaf o’n e-lyfrau drwy iFind. Mae ein e-lyfrau ar gael drwy tair brif wefan: Proquest,VLeBooks ac EBSCO. Bydd y tabiau hyn yn dweud ychydig yn rhagor i chi am y tair prif gronfa ddata. I logio i mewn, defnyddiwch eich rhif myfyriwr 6 digid fel eich enw defnyddiwr a’ch cyfrinair arferol.
Mae casgliad helaeth EBSCO o deitlau e-lyfrau ar EBSCOhost yn caniatáu profiad chwilio cynhwysfawr a grymus. Gyda phob chwiliad, ymddengys teitlau e-lyfrau yn uniongyrchol ochr yn ochr â’ch cronfeydd data EBSCO eraill. Mae hyn yn datgelu i ddefnyddwyr wir ddyfnder cynigion eich llyfrgell a chynyddu defnydd a gwelededd o gasgliad cyfan eich llyfrgell.
Mae JSTOR yn cynnwys testun llawn cyfnodolion, fel arfer o'r rhifyn cyntaf hyd at oddeutu 5 mlynedd yn ôl. Ar gyfer rhifynnau mwy diweddar, yn aml darperir dolenni i destun llawn erthyglau ar wefannau allanol. Mae'r pynciau'n cynnwys ecoleg, economeg, addysg, cyllid, hanes, iaith a llenyddiaeth, mathemateg ac ystadegau, athroniaeth, cymdeithaseg, anthropoleg, gwleidyddiaeth ac astudiaethau poblogaeth.
Mae Proquest Ebook Central yn cynnig e-lyfrau awdurdodol mewn ystod eang o feysydd pwnc, ynghyd ag offer grymus i’ch cynorthwyo i ganfod, defnyddio a rheoli’r wybodaeth yr ydych ei hangen.
Mae ProQuest One Literature yn cynnwys 3 miliwn o ddyfyniadau llenyddiaeth o filoedd o gyfnodolion, monograffau, traethodau hir, a mwy na 500,000 o weithiau cynradd - gan gynnwys testunau prin ac aneglur, fersiynau lluosog, a ffynonellau anhraddodiadol fel comics, perfformiadau theatr, a darlleniadau awduron.
Yn rhoi trosolwg o waith ymchwil clasurol a chyfredol a thueddiadau’r dyfodol yn y Gwyddorau Cymdeithasol a'r Dyniaethau. Mae’n darparu canllaw awdurdodol i theori a dull, yr is-ddisgyblaethau allweddol a dadleuon sylfaenol heddiw. Mae'r gronfa ddata yn cynnwys dros 23,000 o benodau o dros 850 o gyfrolau, gyda sylw eang i 27 maes pwnc, gan gynnwys Busnes ac Economeg, y Cyfryngau a Diwylliant, Cyfiawnder Troseddol a Throseddeg ac Iechyd a Gofal Cymdeithasol.
Mae platfform VLeBooks yn darparu ystod o e-lyfrau ar nifer fawr o bynciau.