Cewch restr A-Y gyflawn o gyfnodolion (ar-lein ac mewn print) am bob pwnc yn iFind. Ar ben y sgrin iFind cliciwch ar:
Mae JSTOR yn cynnwys testun llawn cyfnodolion, fel arfer o'r rhifyn cyntaf hyd at oddeutu 5 mlynedd yn ôl. Ar gyfer rhifynnau mwy diweddar, yn aml darperir dolenni i destun llawn erthyglau ar wefannau allanol. Mae'r pynciau'n cynnwys ecoleg, economeg, addysg, cyllid, hanes, iaith a llenyddiaeth, mathemateg ac ystadegau, athroniaeth, cymdeithaseg, anthropoleg, gwleidyddiaeth ac astudiaethau poblogaeth.
Mae Llyfryddiaeth Hanes Prydain ac Iwerddon yn ganllaw i'r gwaith ar hanes Prydain, Iwerddon a'r Prydeinwyr dramor. Mae'n cynnwys llyfrau, erthyglau ac ysgrifau eraill a gyhoeddwyd ar ôl 1901 ac mae'n cael ei diweddaru deirgwaith y flwyddyn.
Hwn yw'r prif lyfryddiaeth ryngddisgyblaethol ar gyfer y Canol Oesoedd (c.400-1500). Mae'n cynnwys manylion dros 300,000 o erthyglau a gyhoeddwyd ers 1967 mewn cyfnodolion, trafodion cynadleddau, casgliadau o draethodau, Festschriften a chatalogau arddangosfeydd. Mae'n cynnwys pob agwedd ar astudiaethau canoloesol.
Gwasanaeth mynegeio dyfyniadau gwyddonol sy'n darparu gwasanaeth cynhwysfawr i chwilio am ddyfyniadau. Mae'n rhoi mynediad i nifer o gronfeydd data sy'n cyfeirnodi ymchwil trawsddisgyblaethol ac yn caniatáu chwiliadau manwl o is-feysydd arbenigol o fewn disgyblaeth academaidd neu wyddonol.
Bydd y casgliad hwn ar ôl ei gwblhau yn cynnwys 460 o gyfnodolion Prydeinig a gyhoeddwyd rhwng 1681 a’r 1930au. Pynciau dan sylw yn cynnwys llenyddiaeth, athroniaeth, hanes, gwyddoniaeth, celfyddydau cain a’r gwyddorau cymdeithasol.
Mae erthyglau cyfnodolion academaidd yn ffynhonnell ardderchog o wybodaeth ysgolheigaidd ar eich pwnc. Dyma ychydig o awgrymiadau ar gyfer dod o hyd i erthyglau cyfnodolion:-
Gallwch ddefnyddio iFind i ddod o hyd i erthyglau cyfnodolion ar bwnc neu gan awdur penodol. Os ydych chi am gynnal chwiliad mwy trylwyr mae'n well defnyddio cronfeydd data electronig. Mae rhai o'r cronfeydd data hyn (e.e. JSTOR) yn cynnwys erthyglau testun llawn, tra bod eraill (e.e. Web of Science) yn cynnwys cyfeiriad (neu gofnod) a chrynodeb o'r erthygl yn unig. Yn yr achos hwn, byddwch yn aml yn gweld dolen 'iGetIt @ Prifysgol Abertawe' y gallwch glicio arno i weld a ydym yn dal yr erthygl yma.
iFind, sef catalog y llyfrgell, yw’r brif ffordd o chwilio am adnoddau a ddarperir gan Lyfrgell Prifysgol Abertawe.