A wyddech chi y gallwch chi gael mynediad at adnoddau ar-lein Llyfrgelloedd Prifysgol Abertawe o hyd er bod adeiladau ein Llyfrgelloedd ar gau? Cewch lawer o gymorth ar-lein ar gael trwy ein Canllawiau Llyfrgell. Hefyd mae gennym ni ganllaw llyfrgell ar-lein newydd sy’n rhoi adnoddau ychwanegol yn ogystal â thiwtorialau ar-lein i’ch helpu chi i weithio oddi ar y campws. Cofiwch gall eich llyfrgellwyr eich helpu i ddod o hyd i wybodaeth megis e-lyfrau neu gyfnodolion ar-lein ar gyfer eich aseiniad. Gallwch chi eu holi ynghylch ymholiadau cyfeirnodi hefyd. Cysylltwch â ni trwy sgwrs fyw, e-bost neu drwy drefnu apwyntiad a gwnawn ni ein gorau glas i’ch helpu chi!
Yma i Helpu!
05/15/2020
Sian Neilson
No Subjects
No Tags