Mae Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl yn ddigwyddiad cenedlaethol blynyddol sy’n rhoi’r cyfle i ganolbwyntio ar sicrhau iechyd meddwl da. Mae gan y Brifysgol lawer o ddigwyddiadau ar-lein ac wyneb yn wyneb y gallwch chi gymryd rhan ynddynt. Prif nod yr achos yw rhoi llwyfan er mwyn rhannu sgyrsiau sy’n ymwneud ag iechyd meddwl, i gydnabod y pethau yn ein dyddiau bob dydd sy’n effeithio arno, ac i gynnig cyngor a chymorth ymarferol ar sut i wella iechyd meddwl. Thema ymgyrch eleni yw 'Natur'.
Mae ein her ddarllen Darllen yn Well ddiweddaraf yn cynnwys llyfr am fyd natur. Mae gennym ni awgrymiadau i chi os ydych chi’n ansicr pa un i’w ddewis. Gall darllen er pleser fod yn ffordd effeithiol o leddfu straen felly treuliwch amser yn ymlacio (dan do neu yn yr awyr agored!) gyda llyfr da. Mae ein heriau darllen yn ffordd wych o ehangu eich gorwelion darllen ac o ddod o hyd i ffefrynnau newydd.
Mae gan y Brifysgol ystod o wasanaethau cymorth iechyd a lles, ond a wyddech fod cefnogaeth hunangymorth ar gael yn y llyfrgell hefyd? Mae'r Casgliad Lles yn cynnwys teitlau ar reoli straen, gorbryder, ADHD, awtistiaeth, anhwylder obsesiynol cymhellol, anhwylderau bwyta, diffyg cwsg, ymdopi â chamdriniaeth a mwy. Mae rhai o’r teitlau ar gael ar ffurf e-lyfrau. Mae tystiolaeth dda bod bibliotherapi - defnyddio llyfrau ar gyfer therapi hunangymorth - yn gallu bod yn effeithiol iawn, felly edrychwch ar y casgliad os credwch eich bod wedi'ch effeithio gan unrhyw faterion a nodir uchod.