Ydych chi wedi cymryd rhan yn ein heriau Darllen yn Well? Maent yn ffordd wych o amrywio eich darllen a dod o hyd i awduron a genres newydd. Rydyn ni’n lansio un newydd yr wythnos hon! Ysbrydolir yr her hon gan Wythnos Llyfrgelloedd 2020 a’i thema ‘Eich Pasbort i ddarllen’. Mae llyfrau’n ffordd wych o deithio ledled y byd heb adael cartref. Ceisiwch ddarllen pedwar llyfr wedi’u lleoli mewn gwledydd gwahanol y tymor hwn. Dyma rai awgrymiadau i’ch helpu. Neu awgrymwch eich llyfrau chi eich hun a rhannu eich syniadau drwy ddefnyddio #paDarllenYnWell #WythnosLlyrgelloedd.
Rhowch wybod i ni sut mae’n mynd ar @SwanseaUniLib ar Twitter, Instagram a Facebook. Cynhelir yr her tan 4 Ionawr 2021.
Mae Wythnos Llyfrgelloedd eleni hefyd yn ymwneud â rhannu’r llyfrau sydd wedi ffurfio eich byd. Lawrlwythwch y graffeg y gallwch chi ei golygu ac ychwanegwch lun o’ch hunlun darllen i’r ffrâm. Rhannwch eich llun yr wythnos hon gan ddefnyddio’r hashnodau #WythnosLlyfrgelloedd #suDarllenYnWell. Tagiwch ni yn @SwanseaUniLib – byddwn ni’n dwlu ar wybod beth rydych chi’n ei ddarllen!