Os ydych chi’n chwilio am ffotograffau o’r 1930au tan y 1950au, gall Picture Post Historical Archive, 1938–1957 fod yn ddefnyddiol i chi. Yn ystod y cyfnod cyn y teledu, Picture Post oedd ffenestr y byd ar gyfer y mwyafrif o bobl. Mae’n cynnwys miloedd o ffotograffau o bobl gyffredin yn gwneud pethau cyffredin ac, felly, mae’n rhoi ciplun diddorol iawn o fywyd ym Mhrydain rhwng y 1930au a’r 1950au.
I’w gyrchu, chwiliwch am Picture Post ar iFind neu dilynwch y dolenni yng Nghanllawiau’r Llyfrgell. Os bydd angen cymorth arnoch chi i chwilio’r archif, e-bostiwch artslib@abertawe.ac.uk