Mae'r Brifysgol wedi rhannu'r wybodaeth ganlynol am le astudio y tu allan i oriau arferol ar Gampws y Bae:
Lleoedd Astudio y Tu Allan i Oriau Addysgu - Campws y Bae
I ymateb i'ch adborth a ddywedodd wrthym fod angen mwy o fannau astudio arnoch ar Gampws y Bae, ac yn dilyn dadansoddiad o'n data am ddefnyddio lle, byddwn yn darparu'r lleoedd canlynol i chi at ddiben astudio y tu allan i oriau addysgu eleni*.
Mannau Ychwanegol i Astudio y Tu Allan i Oriau Addysgu:
Adeilad |
Ystafelloedd sydd ar gael ar gyfer Astudio y Tu Allan i Oriau |
Dyddiadau sydd ar gael ar gyfer Astudio y Tu Allan i Oriau |
Oriau Agor |
Yr Ysgol Reolaeth |
|
|
|
Adeilad Canolog Peirianneg
|
|
*Mae'r lleoedd hyn yn ychwanegol at y llyfrgell sydd ar agor 24/7 o hyd
Bydd rhaid i chi ddefnyddio'ch cerdyn adnabod myfyriwr i gael mynediad i’r ardaloedd hyn drwy'r drws blaen y tu allan i oriau addysgu. Cofiwch ddiweddaru'ch cerdyn gan ddefnyddio un o'r pwyntiau mynediad cerdyn canlynol:
- ESRI – Y tu allan i'r brif fynedfa
- Canolfan Wybodaeth y Tŵr – y tu allan i'r brif fynedfa
- Adeilad Canolog Peirianneg, Stryd y De, y tu allan i B003
- Yr Ysgol Reolaeth - y tu allan i'r fynedfa gefn, ochr ddeheuol (o dan y grisiau allanol)
- Y Ffowndri Gyfrifiadol - drws mynediad y cefn
- Y Llyfrgell – drws y brif fynedfa
The Core
Mae'r Core wedi cael ei weddnewid a bellach mae'n cynnig amgylchedd cartrefol a chroesawgar i chi fwyta, cwrdd ac ymlacio ynddo. Mae ar agor bellach at ddibenion cyffredinol bob dydd y tu allan i oriau, rhwng 5yp ac 11yh yn ystod y cyfnodau canlynol*:
- 30ain Medi 2019 tan 12fed Rhagfyr 2019
- 6ed Ionawr 2020 tan 2il Ebrill 2020
- 27ain Ebrill 2020 tan 7fed Mai 2020
*Mae gwasanaeth arlwyo ar gael rhwng 8yb a 7yh o ddydd Llun i ddydd Gwener.
Ydych chi'n chwilio am le i gynnal gweithgareddau'ch cymdeithas?
Mae lleoedd i gymdeithasau ar gael yn yr Ysgol Reolaeth ac yn The Core.
I neilltuo lle ar gyfer eich cymdeithas, e-bostiwch societiesteam@swansea-societies.co.uk
Ewch i dudalennau gwe'r llyfrgell am ragor o wybodaeth am leoedd astudio ychwanegol: https://www.swansea.ac.uk/cy/ggs/llyfrgelloedd/mannau-astudio-eraill/