Gan Dr Adrian Osbourne
Wrth i Ddiwrnod Barddoniaeth y Byd nesáu, mae Dylan Thomas yn parhau i fod yn un o enwau enwocaf byd barddoniaeth. Mae ei bwysigrwydd yn ymwybyddiaeth ddiwylliannol y cyhoedd wedi’i wreiddio’n ddwfn, yn bennaf ar sail nifer fechan o gerddi hynod boblogaidd a ‘drama lleisiau’, Under Milk Wood (Dan y Wenallt). Dyma oedd dewis mwyaf poblogaidd nad oedd yn sioe gerdd gan y cyhoedd Prydeinig mewn rhaglen arbennig yn y gyfres Desert Island Discs yn 2011, pan bleidleisiodd y gwrandawyr dros eu dewisiadau nhw. Thomas oedd hefyd yr ysgrifennwr y gofynnwyd amdano amlaf gan westeion yn hanes y sioe, a daeth ei gerdd ‘Fern Hill’ yn ail agos o ran poblogrwydd i Under Milk Wood.
Y tu hwnt i ddemograffig cynulleidfa Radio 4 y BBC, mae gwaith Thomas wedi ymddangos ar sawl rhaglen deledu brif ffrwd, fel y rhaglen Dr Who a wnaed yng Nghymru, yn osgytal â chyfresi Americanaidd, gan gynnwys Family Guy a’r ddrama oruchnaturiol The Vampire Diaries. Mae’r tair enghraifft deledu hon yn dyfynnu ‘Do not go gentle into that good night’, yn yr un modd â Michael Caine yn y ffilm Interstellar. Yn eu tro, rhoddodd sêr Hollywood Sean Penn a George Clooney urddas llenyddol i The Weight of Water a Solaris drwy lafarganu ‘And death shall have no dominion’. O ganlyniad, efallai y byddwch chi’n meddwl bod tri neu bedwar darn gan Thomas yn cyfrif fel corff ei waith.
Mae’r ffocws diwylliannol cyfoes ar gynrychiolaeth gul o waith Thomas yn bygwth cysgodi gweddill ei allbwn amrywiol iawn. Roedd Thomas yn awdur cannoedd o gerddi, tua hanner cant o straeon byrion a mwy nag ugain o sgriptiau ffilm, a hanner nofel. Yn ogystal â’i ysgrifennu, roedd hefyd yn ddarlledwr profiadol ac yn ffigwr o bwys mawr i ddyfodiad recordiadau gair llafar, diolch i lwyddiant ei albymau ar y cyd â Caedmon. Ond yr hyn a lansiodd Thomas i’r statws sydd ganddo erbyn hyn yn y ffurfafen lenyddol, sy’n cylchdroi o amgylch ei atyniad disgyrchol yntau ac yn dylanwadu arno o ran datblygiad Ysgrifennu Saesneg yng Nghymru a barddoniaeth ar draws y byd oedd ei ymddangosiad anhygoel, pwerus a thrawiadol yn ddyn ifanc 18 oed pan gyhoeddwyd “And death shall have no dominion” yn The New English Weekly. Mae cyhoeddiad “And death” ym 1933 a “Do not go gentle” ym 1951 yn cynnig dwy garreg filltir y naill ben a’r llall i’r rhan fwyaf o’r gwaith a grëwyd ac a gyhoeddwyd gan Thomas, ond y blynyddoedd 1934-36 a gynigodd seiliau ei yrfa wrth i’w ddau gasgliad cyntaf gael eu cyhoeddi, sef y gweithiau â theitlau ysbrydoledig 18 Poems a Twenty-five Poems. O’r 43 cerdd hwn daeth llais unigryw a oedd yn disgrifio “proses farddonol” ac yn ei rhoi ar waith, lle mae’r bydysawd yn ei gyfanrwydd, o’r microcosm i’r macrocosm, o’r dynol i’r seryddol, yn rhan o’r un prosesau o fyw a marw, o ddinistrio a chreu sy’n creu dawns ddiddiwedd bywyd. Yn y cywair hwn, ysgrifennodd:
Where no seed stirs,
The fruit of man unwrinkles in the stars,
Bright as a fig
(“Light breaks where no sun shines”)
Mae’r llinellau hyn yn mynd o’r anffrwythlondeb a geir yn “no seed” i ffrwythlondeb ffrwyth sy’n dadrychu (“unwrinkles”) ac sy’n ddisglair (“Bright as a fig”), a’r holl amser, mae’r broses hon yn digwydd ar lefel galaethol, fel bron iddo ragweld y Seren Blentyn yn 2001: A Space Odyssey gan Kubrick a Clarke.
A soniais i fod Thomas hefyd yn fardd ffuglen wyddonol? Er ei enw fel awdur bugeiliol cerddi sy’n dwyn diwrnodau eidylaidd plentyndod i gof, yn bennaf o ganlyniad poblogrwydd “Fern Hill”, rhoddodd Thomas farddoniaeth hefyd i ni fel y canlynol:
My fuses are timed to charge his heart,
He blew like powder to the light
And held a little sabbath with the sun,
But when the stars, assuming shape,
Drew in his eyes the straws of sleep
(“When once the twilight locks no longer”)
Gan fod y gerdd hon hefyd yn sôn am “fôr galaethol” (“galactic sea”), mae’n glir bod ei glystyrau o ddelweddau a’i eirfa yn ymgais i bontio unrhyw fwlch rhyngom ni lawr yma a’r anferthedd mawr i fyny uwch ein pennau. Ac wedi’r cwbl, wrth i ni ystyried yr hyn mae un diwrnod yn y flwyddyn sy’n ymroddedig i farddoniaeth yn ei olygu i ni, a pha ymateb y gallai fod wedi’i dderbyn gan Thomas, a ymrwymodd pob dydd o’i fywyd i ddod o hyd i’r geiriau iawn a’u rhoi yn y drefn iawn, ai hyn yw nod barddoniaeth - dod ag ychydig o ogoniant galaethol i lawr i lefel ddynol y galon? Drwy ei farddoniaeth, ac o ganlyniad iddi, ceisiodd Thomas drin a thrafod profiadau amrywiol bodolaeth, i gyfuno’r hyn sydd â golwg gwrthgyferbyniol a phenau eithaf y bydysawd, i ddangos y canlynol: “earth and sky were as one airy hill. / The sun and moon shed one white light.” Yr hyn y ceisiodd Thomas y bardd ei gyflawni oedd cymathiad, sef synthesis rhwng y nefoedd a’r ddaear, rhwng bywyd dynol a fyddai’n dod i ben adeg marwolaeth a’r gofod anferth, diderfyn, ac mae’n werth ystyried hynny y tro nesaf y bydd un o gewri Hollywood yn adrodd un o’i gerddi dros olygfa sy’n saethiad panio araf dros long yn hwylo drwy’r gofod. Diwrnod Barddoniaeth y Byd hapus, heddiw ac yn y dyfodol i chi.