Croeso i ddiwrnod 4! Heddiw, byddwn yn edrych ar ffyrdd o wneud y llu o drydariadau a phobl ar Twitter yn haws i'w trin a'u canfod

Hashnodau (sef defnyddio'r symbol #) yw lle mae Twitter yn rhagori. Felly bydd heddiw ychydig yn fwy heriol, mae'n flin gennym! Fel @message, mae'r hashnod yn nodwedd a ddatblygwyd gan ddefnyddwyr Twitter, a chafodd ei fabwysiadu a'i integreiddio gan y llwyfan gan ei fod mor ddefnyddiol.

A gold hashtag studded with showbiz lights

Yn y bôn, math  o fetaddata yw’r hashnod. Mae'r # o flaen gair yn nodi ei fod yn air allweddol o ryw fath, gan dagio'r trydariad gyda'r symbol # (o'r enw 'hash, a dyna pam caiff ei alw'n '#hashtag' yn Saesneg). Golyga hyn y gallwch chwilio'n hwylus am drydariadau gan bobl eraill sy'n cynnwys gair tebyg wedi'i nodi â hashnod. A dweud y gwir, does dim hyd yn oed rhaid i chi chwilio – os ydych chi'n clicio ar derm â hashnod, bydd yn chwilio ar eich rhan.

Yr hashnod ar gyfer 5 Niwrnod o Twitter yw, fel byddwch chi wedi dyfalu, #SU5DoT. Felly, gallwch chwilio am unrhyw drydariadau sy'n cynnwys yr hashnod, p'un ai'ch bod yn dilyn y bobl sy'n ei ddefnyddio ai peidio. Dyma sut dysgais i bwy a oedd yn cymryd rhan yn y 5 Niwrnod o Twitter yn ôl ar y diwrnod cyntaf pan anfonoch chi drydariad â hashnod ynddo, ac unrhyw drydariad rydych chi wedi'i anfon sy'n ei gynnwys ers hynny.

(os ydych chi'n defnyddio Mac ac yn craffu'ch pen yn gofyn ble mae'r fysell #, does dim un! Bydd angen i chi wasgu'r fysell alt a'r fysell 3 ar yr un pryd i greu'r symbol #!)

Mae'n rhaid bod hashnod yn air unigol, gyda # o'i flaen, heb fylchau na nodau eraill. Does dim rhaid ei fod yn air go iawn – gall fod yn fyrfodd o ryw fath, fel #SU5DoT, ac mae'n rhaid ei fod yn ddealladwy ac yn gyfarwydd i'r bobl mae'n berthnasol iddynt, neu y gallant ei ddyfalu'n hawdd. Gall hyd yn oed fod yn sawl gair sy'n ymddangos fel un (sy'n cyfrif fel un gair!) megis #ILoveTwitter (mae'n arfer da i ddefnyddio llythyren fawr ar ddechrau pob gair unigol i'w wneud yn haws i ddarllen). Serch hyn, uwchben popeth arall dylai fod yn fyr, er mwyn peidio â defnyddio gormod o nodau!

Sut ydych chi'n gwybod pa hashnodau i’w defnyddio neu chwilio amdanynt? Crëwch nhw! Os ydych chi'n creu hashnod newydd, mae'n dda chwilio'n gyntaf a gwirio a yw wedi cael ei ddefnyddio o'r blaen, ac os felly, a ydych chi'n mynd i'w ddefnyddio mewn ffordd debyg i bobl debyg. Os felly, rydych chi'n ymuno â sgwrs fwy sydd eisoes yn bodoli! Os nad ydych, yna efallai y byddwch yn drysu pethau, gan ddefnyddio hashnod sy'n golygu gwahanol bethau i wahanol bobl. Os ydych chi'n siarad â grŵp cyfyngedig o bobl rydych chi'n ei nabod, fel yn fy achos i, neu fel yn achos cynhadledd, yna gallai'r hashnod fod yn ddiystyr i bobl o'r tu allan (sy'n iawn, yn fwy na thebyg bydd pobl y mae'n berthnasol iddyn nhw naill ai eisoes yn ymwybodol ohono neu'n gallu ei ddyfalu'n rhwydd). Os ydych chi'n creu hashnod gan obeithio sbarduno trafodaeth fwy sy'n agored i bawb, mae'n rhaid ei fod yn hunan-esboniadwy ac yn rhywbeth y gallai rhywun chwilio amdano neu ei ddyfalu'n rhwydd, megis #HigherEd.

Byddwch yn gweld pobl sy'n defnyddio hashnodau y gallai fod diddordeb gyda chi ynddyn nhw wrth sganio eich ffrwd Twitter, ac os ydych chi'n clicio ar yr hashnod, byddwch yn gweld yr holl drydariadau sydd wedi defnyddio'r hashnod hwnnw yn ddiweddar. Neu gallwch chwilio am hashnodau, drwy ddefnyddio'r blwch chwilio ar frig y dudalen. Pan fyddwch yn clywed yr ymadrodd 'wrthi’n trendio ar Twitter', mae'n golygu bod llawer o bobl yn siarad am yr un peth, gan ddefnyddio un hashnod cyffredin. Efallai y byddwch chi'n gofyn am awgrymiadau gan eich dilynwyr.

Mae hashnodau'n ddefnyddiol mewn academia mewn tair ffordd.

Trafodaeth agored, estynedig

Efallai y bydd rhywun yn dechrau trafodaeth ar Twitter y gall pawb gyfrannu ati, gan dynnu pawb ynghyd drwy ddefnyddio hashnod cyffredin. Mae #AcademicTwitter yn enghraifft. Gallwch chi hefyd ei ddefnyddio i gasglu ymatebion.Mae #OverlyHonestMethods yn ffordd hwylus i wyddonwyr rannu'r syniadau go iawn y tu ôl i'w dulliau, gan roi cipolwg i'r cyhoedd o sut y gwneir gwyddoniaeth. Cymerwch gipolwg ar hashnodau eraill ar gyfer addysg.

TweetChat

Mae TweetChat yn sgwrs ar Twitter sy'n digwydd mewn amser real. Caiff pwnc, amser a hashnod eu cytuno gan yr arweinwyr, a bydd pobl yn ymuno â nhw ar y dydd penodol i siarad am y pwnc hwnnw gyda'i gilydd. Gall TweetChats fod yn fwrlymuog ac yn garlamus ond mae'n ffordd wych o drafod, gwneud cysylltiadau newydd a rhannu profiadau. Efallai y bydd gennych ddiddordeb yn y rhai poblogaidd hyn: #LTHEchat, sy'n canolbwyntio ar ddysgu ac addysgu ym maes addysg uwch a #ECRchat, sy'n ymdrin â'r profiad o fod yn fyfyriwr PhD neu ôl-ddoethurol. Chwiliwch am yr hashnodau i weld yr hyn a drafodwyd y tro diwethaf, ac ymuno â'r un nesaf!

LiveTweeting

Mae 'livetweeting' yn golygu trydaru am rywbeth wrth i chi gymryd rhan ynddo. Caiff cynadleddau neu gyflwyniadau seminar eu trydaru'n fyw yn aml. Gellir gwneud hyn yn swyddogol, pan fydd trefnwyr yn gwahodd y rhai sy'n cymryd rhan i drydaru'r papurau'n fyw. Yn aml, mae hashnod 'swyddogol' y cytunir arno o flaen llaw i’w ddefnyddio. Gellir defnyddio'r hashnod cyn, yn ystod ac ar ôl y digwyddiad. Gall dilyn yr hashnod fod yn ffordd dda o ddysgu pwy sy'n mynd i fod yno, beth yw pynciau'r papurau ac unrhyw gwestiynau dilynol. Gellir casglu a rhannu trydariadau â hashnod ar ôl y digwyddiad.

Efallai y bydd ffrwd byw o drydariadau yn y gynhadledd yn cael ei ddangos gan siaradwr ar 'wal drydaru', drwy ddefnyddio nodwedd fel Hootfeed.

  • Os ydych chi mewn cynhadledd, mae trydaru'n fyw yn ffordd wych o gysylltu â chynadleddwyr eraill. Mae'n haws mynd i siarad â rhywun os ydych chi eisoes wedi bod yn 'siarad' â'ch gilydd dros Twitter, ac os ydych chi yn y gynhadledd ar eich pen eich hun, gallwch gwrdd â phobl i dreulio amser â nhw.
  • Drwy drydaru cyflwyniadau'n fyw, gallwch hysbysu pobl nad ydynt yn bresennol eich bod chi yno, er mwyn iddynt ddysgu mwy gennych yn hwyrach os nad oeddent wedi gallu mynychu'r gynhadledd, neu os oeddent mewn sesiwn arall ar yr un pryd.
  • Gallwch roi gwybod i'ch dilynwyr pwy oedd yn cyflwyno, a rhoi disgrifiad cryno o gynnwys y papurau – os yw’n swnio'n ddiddorol, gall eich dilynwyr chwilio am gyhoeddiadau gan y bobl hynny.
  • Gallwch ofyn cwestiynai i'r cyflwynwr, neu ofyn am eglurhad ar rywbeth, a chan chynadleddwyr eraill, neu gan unrhyw un ar Twitter a dweud y gwir, yn ystod y sesiynau. Gallwch hefyd wella'r hyn mae'r cyflwynydd yn ei ddweud, gyda dolenni i ragor o wybodaeth a sylwadau ar eu cyflwyniad. Mae Livetweeting yn weladwy iawn, felly cadwch y sylwadau'n broffesiynol.
  • Mae'n ffordd o barhau â'r sgyrsiau, o bosib gyda'r cyflwynydd ei hun, ar ôl i'r gynhadledd ddod i ben.
  • Gall pobl sy'n trydaru'n fyw o fannau eraill gymryd rhan o hyd yn y gynhadledd, gan ateb cwestiynau i'r siaradwr drwy drydariadau. Mae hyn yn enwedig o effeithiol os yw'r gynhadledd hefyd yn cael ei darlledu'n fyw ar y we, gyda fideo a sain byw.
  • Efallai y bydd y trydariadau'n ddefnyddiol i'r siaradwyr eu hunain, i weld faint o bobl sydd wedi ymateb i'r papur.

Fodd bynnag, rhaid ymdrin â digwyddiadau sy'n cael eu trydaru'n fyw mewn modd sensitif a phroffesiynol. Efallai y bydd rhai cyflwynwyr yn teimlo bod y gynhadledd ar gyfer grŵp caeëdig o bobl ac yn teimlo'n anghyffyrddus bod eu papurau'n cael eu cyfleu y tu hwnt i'r ystafell i'r rhai hynny nad ydynt yn bresennol. Efallai y byddant yn poeni na fydd eu syniadau a'u geiriau'n cael eu cyfleu'n gywir mewn 280 o nodau. Gall hefyd fod braidd yn ddryslyd i weld pobl yn teipio'n gyflym ac yn syrffio'r we pan fyddwch yn rhoi cyflwyniad, hyd yn oed os yw'n berthnasol! Man cychwyn da ar gyfer meddwl am drydaru'n fyw yw'r erthygl hon yn The Guardian, sy'n cynnig canllawiau defnyddiol.

Os ydych chi'n trydaru'n fyw:

  • gwiriwch gyda'r trefnwyr a'r cyflwynwyr ei bod yn iawn i drydaru'n fyw
  • dywedwch wrth eich dilynwyr y byddwch yn trydaru'n fyw fel na fyddant yn drysu!
  • gwnewch yn siŵr eich bod trydar yn broffesiynol – byddwch yn gwrtais ac yn barchus! Bydd yn weladwy iawn os ydych chi'n gas am gydweithiwr neu gymar.
  • sicrhewch eich bod yn cyfleu geiriau'r siaradwr mor gywir ag y gallwch, a'i gwneud yn gwbl glir, fel wrth drydaru'n fyw, eich bod yn cyfleu geiriau rhywun arall.

Tasg

Cadwch lygad am yr hashnodau sy'n nodi sgwrs yr hoffech chi ymuno ynddi, sgwrs fyw o bosib, ac arbrofwch wrth drydaru'n fyw mewn digwyddiad, ni waeth pa mor fach (gall fod yn rhaglen deledu neu radio hyd yn oed!). Os dewch chi o hyd i sgyrsiau hashnod da, rhowch wybod i ni! A chofiwch eu tagio gyda #SU5DoT!