Ydych chi wedi cymryd rhan yn ein heriau Darllen yn Well? Maent yn ffordd wych o amrywio eich darllen a dod o hyd i awduron a genres newydd. Rydyn ni’n lansio un newydd yr wythnos hon!

Darllenwch lyfr sy’n cyd-fynd â phob category isod. Mae rhai categorïau wedi cael eu hysbrydoli gan ddiwrnodau neu wythnosau arbennig yn ystod cyfnod yr her ddarllen.

  • Llyfr sy’n cael ei gyfieithu

  • Llyfr sain

  • Llyfr am hanes Cymru

  • Llyfr a osodwyd mewn gwlad and ydych chi erioed wedi ymweld â hi

  • Stori fer

  • Barddoniaeth

  • Llyfr ffuglen neu ffeithiol am nyrs (12 Mai yw Diwrnod Rhyngwladol y Nyrsys)

  • Llyfr am natur (Natur yw thema Wythnos Ymwybyddiaeth o Iechyd Meddwl eleni, rhwng 10 ac 16 Mai)

  • Llyfr â phrif gymeriad sy’n arddel hunaniaeth LGBTQ+ (17 Mai Diwrnod Rhyngwladol yn erbyn Homoffobia, Trawsffobia a Deuffobia)

  • Llyfr ffuglen neu ffeithiol am genhedlaeth Windrush (22 Mehefin yw Diwrnod Windrush y DU)

Rydym wedi casglu rhai awgrymiadau ynghyd ar gyfer pob awgrym. Mae awgrymiadau'n cynnwys e-lyfrau a llyfrau clyweled y gallwch gael mynediad atynt am ddim.

Neu awgrymwch eich llyfrau chi eich hun a rhannu eich syniadau drwy ddefnyddio  #paDarllenYnWell.

Rhowch wybod i ni sut mae’n mynd ar @SwanseaUniLib ar Twitter, Instagram a Facebook.

Cynhelir yr her tan 19 Medi 2021.

Smiling woman sitting at a table reading a book