Llyfrgell Parc Singleton

I’ch cefnogi chi yn ystod cyfnod yr arholiadau, rydym wedi rhoi detholiad o lyfrau at ei gilydd i’ch helpu os ydych yn poeni neu’n teimlo’n bryderus yn ystod yr adeg hon. Cynhwysir hefyd lyfrau sy’n cynnig awgrymiadau a chyngor ar arholiadau. 

 

Rydym hefyd wedi cynnwys detholiad o lyfrau ffuglen o’n Casgliad Lles, a leolir yn y Cwtsh (i fyny’r grisiau yn y Neuadd Astudio).

Os hoffech fenthyg rhai o’r llyfrau hyn, gofynnwch wrth y Ddesg Wybodaeth.

Dymunwn bob hwyl i’n holl fyfyrwyr gyda’u harholiadau.