Ydych chi'n tybio sut beth yw cael diagnosis o ADHD fel oedolyn? Symud i wlad wahanol lle rydych chi yn y lleiafrif yn sydyn? Cefnogi plentyn drwy anawsterau iechyd meddwl ofnadwy? Herio rhagdybiaethau amdanoch chi? Dyna beth mae ein Llyfrau Byw yn ei wneud ac maen nhw am siarad â chi amdano! Ar 21 a 23 Mawrth, bydd cyfle i chi fenthyg ein Llyfrau i gael sgwrs 15-20 munud am eu hunain. Cewch chi flas ar eu stori yn ein postiad blog blaenorol a chewch chi weld eu hargaeledd isod. (Er nad oes angen cofrestru, cofiwch fod cyfranwyr Llyfrau Byw yn rhoi eu hamser am ddim ac mae ganddynt ymrwymiadau eraill i'w hystyried, felly efallai na fyddant ar gael pan fyddwch yn ymweld.)
11.00-16.00 Dydd Mawrth 21 Mawrth – Creu Taliesin, Campws Parc Singleton
Amber Arrowsmith, Em Cookson-Williams, Mohsen El-Beltagi, Kirsty Hill, Theresa Ogbekhiulu, Shaun, Sophie Smith a Siân Thomas
11.00-16.00 Dydd Iau 23 Mawrth – Y Twyni, Campws Y Bae
Tara Crank, Mohsen El-Beltagi, Theresa Ogbekhiulu, Shaun a Siân Thomas