Sitting in a hammock reading an e-reader

Mae arolwg a gynhaliwyd yn ddiweddar gan The Reading Agency yn dangos ein bod yn darllen mwy yn ystod y cyfnod presennol o ynysu. Mae bron traean ohonom yn darllen mwy  yn ystod y cyfnod ynysu, ac mae’r ffigur hwn yn cynyddu i 45% ar gyfer pobl rhwng 18 oed a 24 oed. Os ydych chi yn y grŵp hwn, neu os hoffech chi fod, ac mae angen syniadau arnoch o ran yr hyn i’w ddarllen nesaf, ymunwch â ni am her ddarllen Cael Seibiant yr haf hwn.

Mae’r cynllun yn syml – darllenwch lyfr sy’n cyd-fynd â phob category isod. (os ydych yn gallu dod o hyd i lyfr sy’n cyd-fynd â mwy nag un categori, mae hawl gwneud hynny!). Rydym wedi casglu rhai awgrymiadau ynghyd ar gyfer pob awgrym. Mae awgrymiadau'n cynnwys e-lyfrau a llyfrau clyweled y gallwch gael mynediad atynt am ddim. Neu awgrymwch eich llyfrau chi eich hun a rhannu eich syniadau drwy ddefnyddio  #paDarllenYnWell.

Cynhelir yr her tan 25 Medi. Os nad ydych chi’n llwyddo i ddarllen pob un o’r llyfrau erbyn hynny, peidiwch â phoeni – hwyl yn unig yw hwn, felly gallwch gymryd faint bynnag o amser sydd ei angen arnoch! Rhowch wybod i ni sut mae’n mynd ar @SwanseaUniLib ar Twitter, Instagram a Facebook.

Darllenwch lyfr sy’n cyd-fynd â phob category isod.

  • Gwyliau neu daith sy’n mynd o chwith
  • Llyfr o’r 100 o Nofelau a Luniodd ein Byd  
  • Llyfr sy’n cael ei gyfieithu
  • Wedi’i leoli mewn gwlad nad ydych wedi ymweld â hi erioed
  • Dirgelwch / trosedd
  • Gwyddoniaeth ffuglen
  • Barddoniaeth
  • Mythau a Chwedlau
  • Llyfr sain
  • Llyfr rydych wedi dechrau arno ond byth wedi’i orffen