Mae Prifysgol Abertawe'n ymrwymedig i ledaenu ei hymchwil a'i hysgolheictod mor eang â phosib. Mae'n cefnogi'r egwyddor y dylai canlyniadau ymchwil a ariennir gan gyllid cyhoeddus fod ar gael am ddim i'r cyhoedd. Mae academyddion ym Mhrifysgol Abertawe wedi neilltuo neu wedi rhoi eu gwaith ysgolheigaidd (yn ogystal â hawliau'r Brifysgol) i gyhoeddwyr drwy drosglwyddo hawlfraint ar adeg cyhoeddi. Mae hyn yn golygu bod llawer o erthyglau cyfnodolion a gwaith ysgolheigaidd yn cael eu rheoli'n llwyr neu'n rhannol gan gyhoeddwyr academaidd.
Mae'r polisi cyhoeddiadau ymchwil hwn yn galluogi ymchwilwyr i gadw eu hawliau i ailddefnyddio eu gwaith eu hunain ac yn mynnu bod pawb yn cael mynediad agored llawn ac ar unwaith at yr holl:
Erthyglau ymchwil a ariennir a rhai nas ariennir a adolygwyd gan gymheiriaid, wedi'u cyhoeddi mewn cyfnodolyn, cynhadledd neu ar blatfform cyhoeddi.
Penodau llyfrau.
Anogir awduron i gadw’r hawliau penodol i hunan archifo gwaith a gyhoeddwyd. Fel crëwr y gwaith, chi fydd yn berchen ar yr hawlfraint fel arfer oni bai eich bod yn ei throsglwyddo i barti arall neu os yw’n eiddo i’ch cyflogwr. Fodd bynnag, er gwaethaf y ffaith nad oes ymrwymiad arnoch i drosglwyddo hawlfraint unigryw, mae’r rhan fwyaf o gyhoeddwyr academaidd o siwrnalau tanysgrifio traddodiadol yn disgwyl i chi wneud hynny yn amod o’i gyhoeddi.
Mae polisïau cyllido a sefydliadol yn ei gwneud yn ofynnol i allbynnau grant fod ar gael mewn storfa agored fel arfer, felly argymhellir eich bod yn ystyried yr hawliau yr ydych yn dymuno’u cadw cyn i chi lofnodi unrhyw gytundeb.
Defnyddio Adendwm Ysgolhaig
Mae Addasiad Prifysgol Abertawe i’r Cytundeb Cyhoeddi yn caniatáu i chi gadw hawliau defnydd digidol a mynediad wrth drosglwyddo’r hawlfraint i’r cyhoeddwr. Lawr lwythwch ac argraffwch yr adendwm (dolen isod), llenwch ef a’i lofnodi. Anfonwch gopi at eich cyhoeddwr a gofyn iddo ei lofnodi a’i atodi i’r cytundeb trosglwyddo hawlfraint. Dylech chi gadw copïau wedi’u llofnodi o unrhyw gytundeb neu drwydded rhyngoch chi a’ch cyhoeddwr.
Blog ganLizzie Gadd, Loughborough University
Academics and Copyright Ownership: Ignorant, Confused or Misled?
The university, its open access policy, the academics and their freedom
Defnyddio Trwyddedau Creative Commons
Trwy ddefnyddio cyfres Creative Commons o drwyddedau cewch gadw rheolaeth o’r telerau ar gyfer dosbarthu ac ailddefnyddio eich gwaith. Mae angen y drwydded CC-BY fwyfwy i fodloni gofynion cyrff cyllido yn y DU. Mae’r drwydded hon yn caniatáu i ddefnyddwyr rannu ac ailddefnyddio gwaith a gyhoeddwyd ar yr amod y cydnabyddir yr awdur gwreiddiol.
SHERPA/RoMEO
Mae’r gronfa ddata SHERPA/RoMEO yn darparu crynodebau clir o gytundebau hawlfraint safonol i gyhoeddwyr a dolenni i bolisïau manwl ar wefannau cyhoeddwyr.
Defnyddio crynodebau sydd wedi’u cyhoeddi: mae hawlfraint yn berthnasol i grynodebau sydd wedi’u cyhoeddi fel arfer. Fodd bynnag, caniateir copïo crynodebau gwyddonol a thechnegol o dan adran 60 o Ddeddf Hawlfraint, Dyluniadau a Phatentau 1988.
Adran 60. Crynodebau o erthyglau gwyddonol neu dechnegol
(1) Pan gaiff erthygl ar bwnc gwyddonol neu dechnegol ei chyhoeddi mewn cylchgrawn ynghyd â chrynodeb yn nodi cynnwys yr erthygl, nid yw’n mynd yn groes i’r hawlfraint yn y crynodeb nac yn yr erthygl i gopïo’r crynodeb neu ddosbarthu copïau ohono i’r cyhoedd.
(2) Nid yw’r adran hon yn berthnasol os oes cynllun trwyddedu wedi’i ardystio at ddibenion yr adran hon o dan adran 143 sy’n darparu ar gyfer dyrannu trwyddedau, neu i’r graddau y mae hynny’n wir.
Bydd angen i chi gael caniatâd gan y cyhoeddwr i ailgyhoeddi crynodebau ar gyfer Celfyddydau a Dyniaethau. Fel arall, crëwch eich crynodeb eich hun.
Dogfennau cynhadledd nad ydynt wedi’u cyhoeddi: pan na lofnodwyd cytundeb cyhoeddwr ar gyfer dogfen cynhadledd nad yw wedi’i chyhoeddi, chi fydd yn dal yr hawlfraint a chewch ei archifo eich hun mewn ystorfa. Sicrhewch nad ydych wedi cynnwys unrhyw gynnwys gan drydydd parti heb ganiatâd. Os ydych yn bwriadu cyhoeddi mewn siwrnal, sicrhewch na ystyrir bod storio dogfen eich hun yn gyhoeddiad blaenorol gan unrhyw ddarpar gyhoeddwr.
Adroddiadau: o ran adroddiadau sydd wedi’u hysgrifennu ar gyfer sefydliad trydydd parti, mae’n bosibl y bydd y prosiect wedi pennu hawliau penodol iawn o ran ailddefnyddio gan yr awdur. Pan fo angen caniatâd, cysylltwch â’r sefydliad comisiynu.
Ewch i’n tudalennau cymorth data ymchwil i gael gwybodaeth gynhwysfawr am gynllunio rheoli data, gweithio gyda data, archifo data a chloddio testun a data. Mae’r dudalen Cloddio Testun a Data a Hawlfraint yn rhoi gwybodaeth am ddefnyddio’r eithriad sy’n caniatáu ar gyfer copïo gwaith at ddibenion dadansoddi testun a data. Gallwch gysylltu â’r Rheolwr Data Ymchwil yn research-data@swansea.ac.uk
Mae AgorIP yn eich cefnogi chi o'r foment y daw'r syniad i'ch pen... i'r farchnad.