Skip to Main Content

Hawlfraint

This page is also available in English

Beth yw Hawlfraint?

Mae hawlfraint yn eiddo deallusol sy'n gwarchod gwaith creadigol gwreiddiol. Mae gan y perchennog hawliau unigryw sy'n berthnasol i atgynhyrchu, cyhoeddi, lledaenu neu berfformio'r gwaith.  Mae hawlfraint yn berthnasol i waith llenyddol, gwaith dramatig, gwaith cerddorol, gwaith artistig, ffilmiau, sain a darllediadau.

Rhoddir hawlfraint yn awtomatig i unrhyw beth sy'n cael ei ysgrifennu, ei gyhoeddi, ei recordio, ei gynhyrchu neu ei berfformio ar unrhyw ffurf, ar gyfer cyfnod amser penodol. Mae hawlfraint yn berthnasol i ddeunydd argraffedig ac i ddeunydd electronig fel ei gilydd.

Hawl diriogaethol yw hawlfraint, ac mae rheolau gwahanol yn berthnasol i wledydd gwahanol. Mae'n bosib bod Cytundeb Berne yn gwarchod eich hawlfraint drwy gytundebau rhyngwladol. Yn y DU, diffinnir cyfraith hawlfraint gan Ddeddf Hawlfraint, Dyluniadau a Phatentau 1988. Mae'r Ddeddf wedi cael ei diwygio nifer o weithiau ers hynny, a chyflwynwyd newidiadau sylweddol a chadarnhaol yn 2014.

 

    Intellectual property Office (IPO)

   Gwybodaeth swyddogol y llywodraeth ar gyfer hawlfraint y DU.

Cyfrifoldeb Personol

Defnyddiwch y canllaw hwn i'ch addysgu eich hun am sut i ailddefnyddio gwaith eraill yn gyfreithlon, sut i warchod eich gwaith gwreiddiol eich hun a sut mae trwyddedau'n gweithio. Mae'r adnodd hwn yn ymdrin ag agweddau sylfaenol ar hawlfraint ac mae'n darparu dolenni i adnoddau awdurdodol ar hawlfraint.

Bwriad y canllaw yw galluogi staff a myfyrwyr i gydymffurfio â deddfwriaeth hawlfraint a thelerau'r trwyddedau amrywiol mae'r Brifysgol wedi'u cytuno â pherchnogion hawliau neu eu cynrychiolwyr. Fel aelod o'r Brifysgol, fe'ch atgoffir am eich rhwymedigaeth i ufuddhau i'r gyfraith mewn perthynas â hawlfraint ac fe'ch anogir i ddefnyddio'r eithriadau cyfreithlon sydd ar gael i'r sector addysg.

Meddyliwch am sut rydych yn bwriadu defnyddio gwaith sy'n destun hawlfraint yn eich aseiniadau, eich ymchwil, eich cyhoeddiadau a'ch bywyd pob dydd. Dylech barchu gwaith sy'n destun hawlfraint gan fantoli'ch defnydd creadigol o gynnwys er mwyn adeiladu ar wybodaeth a rennir.

Os nad ydych yn gallu dod o hyd i'r wybodaeth mae ei hangen arnoch, neu os oes gennych unrhyw gwestiynau am hawlfraint, cysylltwch â ni.

Gwasanaeth Clirio Hawlfraint

Os oes gennych ymholiad am hawlfraint eitem a gyhoeddwyd gan Brifysgol Abertawe, mae'n bosib y gallwn eich helpu i sicrhau caniatâd deiliad yr hawlfraint.

Mae'n rhaid i ymchwilwyr ac ysgrifenwyr sydd am ddefnyddio'r casgliadau yn ein harchifau gysylltu ag Archifau Richard Burton  yn uniongyrchol.