Skip to Main Content

Hawlfraint

This page is also available in English

Defnyddio Delweddau

illustration of person with two imagesGall defnyddio delweddau a deunydd clyweled fod yn her oherwydd natur gymhleth yr hawliau sydd ynghlwm. Mae amrywiaeth eang o ddelweddau a gwaith artistig, wedi'u creu gan unigolion neu eu cynhyrchu gan gyfrifiaduron, sy'n cwmpasu nifer mawr o fodelau masnachol. Yn debyg i ddeunyddiau ar sail testun, mae'r rhain i gyd yn destun hawlfraint,  p'un a ydynt yn deillio o ffynhonnell argraffedig neu electronig. Gall y mathau o ddelweddau gynnwys graffiau, siartiau, diagramau, celfyddyd gain, darluniadau, cartwnau, ffotograffau ayb.

  • Mae hawlfraint ar gyfer gwaith artistig yn para 70 o flynyddoedd ynghyd ag oes y crëwr.
  • Fel arfer, y ffotograffydd sy'n berchen ar hawlfraint lluniau a dynnwyd gan yr unigolyn hwnnw. Yn achos, pobl sy'n tynnu lluniau fel rhan o'u dyletswyddau, fel rheol, byddai'r hawlfraint yn perthyn i'r cyflogwr.

 

I gynorthwyo myfyrwyr ac athrawon i ddefnyddio delweddau mewn modd cyfreithlon a moesegol, awgrymwn eich bod yn canolbwyntio ar y math o ddelwedd mae'n syml cael caniatâd i'w defnyddio. Yn aml, mae delweddau sydd ar gael drwy drwyddedau Creative Commons, heb angen gofyn am ganiatâd deiliad yr hawlfraint (parth cyhoeddus), a chasgliadau cynnwys addysgol, yn ffynonellau priodol i'w defnyddio.

Dylech bob amser wirio'r amodau a thelerau ailddefnyddio.

  • Byddwch yn ofalus wrth ddefnyddio delweddau sydd ar gael ar-lein; ydy'r sawl a lwythodd y ddelwedd wedi cael caniatâd i wneud hynny? Ai'r fersiwn ddigidol wreiddiol a dilys sydd ar gael?
  • Defnyddiwch gasgliadau o ddelweddau sydd wedi cael eu trwyddedu at ddibenion addysgol neu ddelweddau sydd ar gael drwy drwydded Creative Commons.
  • Efallai nad oes hawl copïo neu ddosbarthu delwedd heb ganiatâd deiliad yr hawliau neu heb dalu ffi. Nid yw'r ffaith nad oes rhaid talu breindal yn golygu nad yw gwaith yn destun hawlfraint.
  • Efallai y bydd peiriant chwilio am yn ôl o gymorth wrth nodi delweddau masnachol y codir ffi i'w hailddefnyddio neu le nad yw'r berchnogaeth yn amlwg.
  • Dylech bob amser gydnabod a phriodoli ffynhonnell unrhyw ddelwedd y penderfynwch ei defnyddio.

Ydy'r eithriad 'delio'n deg' yn berthnasol i ddelweddau?
Mae'n debygol y byddwch am ddefnyddio'r ddelwedd gyfan, yn hytrach na rhan ohoni, felly nid yw hyn yn fater syml. Gallech ddibynnu ar yr egwyddor 'delio'n deg' pe byddech yn defnyddio delwedd cydraniad isel, neu'n penderfynu y gallech ddibynnu ar eithriad addysgol. Byddai rhaid eich bod yn defnyddio'r ddelwedd at ddibenion anfasnachol, ymchwil, neu astudio preifat, dyfynnu, beirniadu neu adolygu, neu fel enghraifft at ddibenion addysgol.

Os hoffech ddefnyddio delwedd mewn gwaith cyhoeddedig, dylech bob amser ofyn am ganiatâd deiliad yr hawlfraint a chadw copi o'ch gohebiaeth. Ni fyddai delio'n deg yn berthnasol i ddefnyddio ffotograff cydraniad uchel yn yr amgylchiadau hyn.

Undraw - Telerau ac Amodau 

Adnodd y Llyfrgell: Dod o hyd i Ddelweddau

 

Pecyn cymorth y llyfrgell, sy'n eich cyfeirio at adnoddau delweddau ar y we sy'n cynnig mynediad i lawer o adnoddau delweddau gwahanol mewn un man cyfleus.

 

Mae'r adrannau'n cynnwys:
Creative Commons
Priodoli Delweddau
Gwefannau Pwnc ac Addysgol
Cronfeydd Delweddau Cyffredinol
Delweddau Parod a Chymylau Geiriau
Addasu a Chreu Delweddau


Ewch i'r dolenni ar fersiwn Saesneg y canllaw hwn

Cyfeirnodi'ch delweddau

Dylech bob amser gydnabod ffynhonnell eich llun. Mae hyn yn golygu bod yn rhaid i chi ddyfynnu gan gydnabod yn ddigonol a chynnwys y ffynhonnell yn eich rhestr o gyfeiriadau, eich llyfryddiaeth, eich postiad blog, eich cyflwyniad neu'ch gwefan. Bydd cadw cofnod cywir yn eich galluogi chi, neu rywun sy'n defnyddio'ch gwaith, i allu dod o hyd i'r ffynhonnell wreiddiol.

Dylech gynnwys yr wybodaeth ganlynol: Awdur neu Wneuthurwr / Teitl / URL ffynhonnell y ddelwedd neu'r ffilm / Dyddiad cynhyrchu a Math o Drwydded (os yw'n briodol).

Bydd rhai cronfeydd data delweddau'n cynnwys cydnabyddiaeth addas i chi ei defnyddio. Hefyd ceir adnoddau priodoli Creative Commons sydd ar gael o'r Creative Commons Toolbox a fydd yn llunio cydnabyddiaeth addas.

Mae gwybodaeth ychwanegol am gyfeirnodi ar gyfer amrywiaeth o arddulliau ar gael o Ganllawiau Cyfeirnodi'r Llyfrgell

Offer Creative Commons

Dolenni Allanol