Mae deddfwriaeth hawlfraint yn gwarchod eich gwaith ac yn atal pobl eraill rhag ei ddefnyddio heb ganiatâd. Mae hawlfraint yn atal eraill rhag copïo, dosbarthu, rhentu neu fenthyca copïau o'ch gwaith. Rhwystrir perfformio, dangos neu chwarae gwaith yn gyhoeddus, neu wneud addasiadau iddo, hefyd.
Mae gan awdur gwaith hawl foesol i gael ei adnabod fel crëwr y gwaith ac mae ganddo/ganddi'r hawl i wrthwynebu defnydd difrïol. Mae hawliau economaidd yn rhoi hawliau unigryw i'r awdur i reoli ei waith a manteisio arno tra bydd yn berchen arno.
Mae hawlfraint yn hawl awtomatig, felly nid oes rhaid i chi gofrestru perchnogaeth. Gallwch ddewis ychwanegu'r symbol © at eich gwaith, ynghyd â'ch enw a blwyddyn creu'r gwaith, ond mae hyn yn ddewisol. Os ydych yn bwriadu cyhoeddi'ch gwaith eich hun, ewch i'r tab Gwybodaeth i Ymchwilwyr am ragor o wybodaeth.
Beth sy'n cael ei gynnwys yn y diffiniad o gopïo?
Mae deddfwriaeth hawlfraint y DU yn cyfyngu ar y deunydd y gallwch ei atgynhyrchu'n gyfreithlon
Yn gyffredinol, gallwch gopïo gwaith dan yr amgylchiadau canlynol yn unig:
Diffinnir copïo mewn fformat electronig fel 'Copïo Digidol'. Mae'r term hwn yn berthnasol i gopïo o wefannau, llosgi CD, sganio o ddeunydd argraffedig er mwyn ei gadw'n electronig etc.
Nid yw delio teg yn berthnasol i bostio deunydd ar y rhyngrwyd neu'r fewnrwyd oherwydd ystyrir mai ‘cyfathrebu â’r cyhoedd yw’r math hwn o gyhoeddi (Deddf Hawlfraint, Dyluniadau a Phatentau 1988, adran 29) ac nad yw at ddibenion ymchwil ac astudiaethau preifat.
Os yw diben gwirioneddol copïo yn cyd-fynd ag eithriad addysgol beirniadu, adolygu, dyfynnu ac adrodd newyddion (Deddf Hawlfraint, Dyluniadau a Phatentau 1988, adran 30), gellir caniatáu hyn gan fod y ddarpariaeth yn ei gwneud yn ofynnol cyfleu'r gwaith i'r cyhoedd. Dylid cydnabod y ffynhonnell oni bai nad yw'n bosibl am resymau ymarferol.
Mae anfon copi o eitem i berson arall yn dor cyfraith.
'Delio Teg' ar gyfer gwaith hawlfraint at ddibenion penodol
Cewch wneud un copi neu ddetholiad byr at eich dibenion astudio preifat eich hun a/neu at ddiben ymchwil anfasnachol. Ni fanylir ar faint y darn y gellir ei gopïo ond ni ddylai fod yn sylweddol. Mae hyn yn berthnasol i bob math o waith sy'n destun hawlfraint gan gynnwys perfformiadau sydd wedi'u recordio. Fodd bynnag, nid yw sgoriau cerddorol wedi'u cynnwys yn y fframwaith copïo hwn.
Yn aml diffinnir y cyfyngiadau fel:
Rhaid i chi sicrhau eich bod yn defnyddio'r deunydd mewn modd teg; a rhaid i chi bob amser roi cydnabyddiaeth briodol i ddeiliad yr hawlfraint wrth gopïo at ddibenion ymchwil. Mae'r caniatâd hwn yn cael ei adnabod fel "delio'n deg" a mater i ddoethineb yr unigolyn ydyw; ydy'r atgynhyrchiad yn effeithio ar werthiant masnachol y gwaith gwreiddiol ac a fyddai'n cael ei ystyried yn rhesymol ac yn briodol? Mae'n berthnasol i'r eithriadau sy'n ymwneud ag ymchwil ac astudio preifat, beirniadaeth neu adolygu, ac adrodd y newyddion.
Adran 29 y Ddeddf Hawlfraint Dyluniadau a Phatentau
Nid yw eithriadau'n hawliau diamod ond maent yn darparu amddiffyniad cyfreithiol. Peidiwch â drysu rhwng hyn a'r term 'Defnydd Teg' yn yr Unol Daleithiau.
Ceir eithriad arall lle gallwch gopïo darnau cyfyngedig iawn at ddibenion beirniadu ac adolygu. Mae hyn yn berthnasol i waith a gyhoeddir ac mae'n ofynnol i chi gydnabod y ffynhonnell.
Mae rhywfaint o orgyffwrdd rhwng defnyddio'r eithriad ar gyfer beirniadu ac adolygu ac ar gyfer dyfynnu. Yn fras, gellir defnyddio'r eithriad dyfynnu i roi dyfyniadau byr o amrywiaeth o ffynonellau. Gellir defnyddio'r eithriad beirniadu ac adolygu i feirniadu neu adolygu gwaith gwreiddiol ar gyfer ystyr a/neu gynnwys.
Cewch ddibynnu ar yr eithriadau hyn dan yr amgylchiadau canlynol:
Dylid sylwi na chaiff contract drechu'r eithriadau ar gyfer dyfynnu ac ar gyfer beirniadu ac adolygu.
Caniateir i ymchwilwyr ddefnyddio technoleg cloddio testun a data ar waith sy'n destun hawlfraint. Mae'r eithriad hwn yn berthnasol i ddibenion anfasnachol yn unig. Fel ymchwilydd, mae'n rhaid eich bod wedi cyrchu'r gwaith drwy ffordd gyfreithlon, er enghraifft, drwy danysgrifiad llyfrgell. Rhaid i chi ddarparu cydnabyddiaeth ddigonol oni bai nad yw hyn yn ymarferol.
Gallwch ddefnyddio deunydd sy'n destun hawlfraint i adrodd ar ddigwyddiadau cyfoes ar yr amod eich bod yn gwneud hynny ar sail egwyddorion 'delio'n deg' a'ch bod yn cydnabod eich ffynhonnell. Mae hyn yn cynnwys darnau byr o destun neu ddarnau byr o gyfryngau digidol a ddefnyddir i adrodd ar ddigwyddiadau cyfoes. Nid yw ffotograffau wedi'u cynnwys a rhaid cael caniatâd deiliad yr hawlfraint i'w hatgynhyrchu.
Mae trwydded sylfaenol y Brifysgol gan yr Asiantaeth Trwyddedu Papurau Newydd yn caniatáu copïo o bapurau cenedlaethol y DU ac o 5 teitl rhanbarthol at ddibenion dysgu ac addysgu. Nid yw'n cynnwys papurau newydd rhyngwladol.
I gael rhagor o wybodaeth am y drwydded ar gyfer sefydliadau addysgol, ewch i wefan Media Access NLA.
Adran 30 y Ddeddf Hawlfraint Dyluniadau a Phatentau
Caniateir i chi ddefnyddio'r amddiffyniad 'delio'n deg' os ydych yn defnyddio gwaith sy'n bodoli at ddibenion gwawdlun, parodi neu bastiche. Gallwch ddefnyddio eithriad hawlfraint i greu gwaith newydd heb orfod cael caniatâd penodol gan ddeiliad yr hawliau. Fodd bynnag, gofalwch nad yw defnydd dychanol yn cyfateb i ymddygiad difrïol, a dylai fod gwahaniaethau amlwg rhyngddo a'r gwaith gwreiddiol.
Ewch i'r tab 'Gwybodaeth i Athrawon'
Defnyddio 'delio teg' ar gyfer addysgu.
Pwy yw perchennog yr hawliau?
Sut i gysylltu â pherchennog yr hawliau
Dylech geisio cysylltu â pherchennog neu berchnogion yr hawliau os penderfynwch na allwch ddibynnu ar ddelio teg neu unrhyw drwydded y mae'r Brifysgol yn meddu arni neu sydd ynghlwm wrth y gwaith.
Mae'n well gwneud hyn yn ysgrifenedig drwy e-bost, ffurflen gyswllt ar wefan etc. Cadwch gopi o'ch cais gan fod caniatâd dros y ffôn neu ar lafar yn annibynadwy os cewch eich herio. Efallai y bydd angen talu perchennog hawliau cyn y gallwch ddefnyddio’r gwaith.
Dylech gynnwys manylion llawn y cynnwys rydych chi am ei ailddefnyddio, manylion y gynulleidfa neu'r defnyddwyr, y fformat dosbarthu a nodwch y cyfnod amser.
e.e. i'w ddefnyddio mewn rhwydwaith diogel a ddiogelir gan gyfrineiriau ar gyfer carfan gyfyngedig o XX o fyfyrwyr am hyd modiwl addysgu 2024-2024.
Os nad ydych yn gallu canfod pwy yw deiliad yr hawliau, neu os yw crëwr y gwaith yn anhysbys, rydych yn delio â gwaith amddifad. Daw hawlfraint i ben ar ddiwedd 2039.
Caniateir i unigolion wneud un copi o waith sy'n destun hawlfraint, mewn fformat hygyrch, at ddefnydd personol unigolyn anabl, os nad oes copi hygyrch o'r gwaith ar gael yn fasnachol. Felly, ar yr amod bod y sawl sy'n gwneud y copi wedi cael y gwaith gwreiddiol yn gyfreithlon, gall greu fersiwn wedi'i haddasu.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael gan Ganolfan Drawsgrifio Prifysgol Abertawe.
Adrannau 31A a 31BB y Ddeddf Hawlfraint Dyluniadau a Phatentau
Ar hyn o bryd, mae Prifysgol Abertawe'n tanysgrifio i'r adnoddau canlynol y mae pob un ohonynt yn caniatáu defnyddio mapiau a data'r Arolwg Ordnans at ddibenion addysgol: Gwasanaeth gwe Digimap, Historic Digimap ac Environment Digimap. Mae Cytundeb Trwydded Casgliadau Digimap yn caniatáu i unigolyn achrededig gadw rhannau cyfyngedig o fapiau'n electronig, neu eu hargraffu, o dan amodau a thelerau ei drwydded.
Gwarchodir mapiau'r Arolwg Ordnans am 50 o flynyddoedd. Maent fel arfer yn caniatáu copïo rhan o fap sy'n cyfateb yn fras i faint A4 heb ofyn am ganiatâd. Caiff mapiau o ffynonellau eraill eu hystyried yn waith artistig, felly bydd eithriadau 'delio'n deg' i hawlfraint yn berthnasol.
Mae Google Maps, Google Earth a Street View yn caniatáu arnodi eu mapiau, gan gynnwys caniatâd i'w defnyddio mewn erthyglau cyfnodolion, adroddiadau, cyflwyniadau, cylchgronau, ayb, ar yr amod eich bod yn defnyddio'r offer mapio at ddiben nad yw'n fasnachol a'ch bod yn cydnabod y ffynhonnell yn briodol.
Darllenwch yr amodau a thelerau'n ofalus cyn atgynhyrchu cynnwys unrhyw fap.
Atgoffir staff a myfyrwyr yn barchus na ddylent werthu cynnwys Prifysgol Abertawe i safleoedd masnachol sy'n cyflenwi adnoddau addysgol i fyfyrwyr. Diogelir nodiadau darlithoedd, papurau arholiad a chynnwys modiwlau Prifysgol Abertawe gan Ddeddf Hawlfraint, Dyluniadau a Phatentau 1988.
Atgoffir staff a myfyrwyr o'u rhwymedigaeth i lynu wrth y Polisi Defnydd Derbyniol Digidol. Ni ddylid rhannu cynnwys y Brifysgol heb ganiatâd yr awdur/awduro.