Copïo at Ddiben Addysgu
Cewch gopïo darnau cyfyngedig o ddeunyddiau hawlfraint ar yr amod bod hynny at ddibenion addysgu anfasnachol. Mae’n rhaid i’r defnydd o waith hawlfraint yn y dosbarth fod yn destun prawf 'delio teg' ac mae’n berthnasol i ddeunydd sydd wedi’i roi ar gael yn gyhoeddus yn unig. Nid yw gwaith nad yw wedi’i gyhoeddi yn gynwysedig yn yr eithriad hwn sy’n ymwneud ag addysg. Mae’r eithriad ‘enghreifftio i addysgu’ yn ymestyn i gopïo gwaith i unrhyw gyfrwng, er enghraifft byrddau gwyn rhyngweithiol a chyflwyniadau.
Planet eStream ar gyfer Cipio Darlithoedd ym Mhrifysgol Abertawe
Rhagor o wybodaeth am y gwasanaeth
Ni all staff ddefnyddio’r cyfleuster cipio darlithoedd nes eu bod wedi cysylltu â salt@swansea.ac.uk a mynd i sesiwn hyfforddi.
Mae Prifysgol Abertawe yn disgwyl i staff sy’n defnyddio’r gwasanaeth Cipio Darlithoedd i gydymffurfio â holl ddeddfwriaeth hawlfraint berthnasol y DU ac Ewrop. Mae hawlfraint yn bwysig iawn pan fo darlithoedd yn cael eu recordio a chyfrifoldeb yr aelod o staff yw sicrhau nad yw hynny’n amharu ar hawliau eiddo deallusol unrhyw drydydd parti. Mae recordiadau drwy system cipio darlithoedd yn waith hawlfraint yn eu rhinwedd eu hunain a chânt eu darparu at ddiben ymchwil personol, astudiaethau preifat, neu weithgareddau cyrsiau. Mae’r recordiadau yn destun y Polisi Dileu sefydliadol pan fo angen hynny ac ni ddylid eu rhannu’n gyhoeddus.
Caiff darlithoedd gynnwys deunydd sydd â hawlfraint sy’n eiddo i drydydd parti os yw un o’r canlynol yn berthnasol:
a. Cymeradwywyd eithriad addysgol dan gyfraith hawlfraint y DU (CDPA 1988):
Os ydych yn defnyddio un o’r eithriadau hyn mae’n rhaid bod yn 'deg' ac mae’n rhaid ystyried y canlynol:
b. Mae ffactorau eraill yn berthnasol:
Ni ddylai deunydd cipio darlithoedd gynnwys deunydd o ffynonellau megis iPlayer neu YouTube. Mae’n bosibl cynnwys darnau o’r teledu neu’r radio sydd wedi’u recordio o dan yr ERA (Trwydded yr Asiantaeth Recordio Addysgol). Mae’n rhaid i unrhyw ddarn nodi’n glir enw’r rhaglen, dyddiad y recordiad a’r sianel. Dylid cynnwys datganiad yn cydnabod y cafodd ei recordio dan delerau’r Drwydded ERA.
Sganio o dan Drwydded Addysg Uwch yr Asiantaeth Trwyddedu Hawlfraint
Mae Trwydded Addysg Uwch yr Asiantaeth Trwyddedu Hawlfraint yn caniatáu ar gyfer creu darlleniadau cwrs wedi’u digideiddio er mwyn cyflwyno i fyfyrwyr trwy rith-amgylchedd dysgu Blackboard. Gall darnau a delweddau cyhoeddedig o lyfrau a siwrnalau fod ar gael ar fyrddau gwyn rhyngweithiol, mewn cyflwyniadau PowerPoint a rhestrau darllen ar-lein.
Mae terfynau ar nifer y darnau y cewch eu defnyddio; ni cheir defnyddio mwy na 10% neu un bennod (pa un bynnag sydd fwyaf), neu un erthygl mewn unrhyw rifyn unigol o siwrnal neu gyfres o gynadleddau; un achos sengl o adroddiad cyhoeddedig o achosion barnwrol; un olygfa o ddrama, neu un stori fer neu un gerdd neu un ddrama nad yw’n fwy na 10 tudalen o hyd, sydd wedi’i chynnwys mewn antholeg. Nid yw papur cerddoriaeth wedi’i gynnwys yn nhrwydded Addysg Uwch yr Asiantaeth Trwyddedu Hawlfraint.
Mae Gwasanaeth Sganio’r Llyfrgell yn cynnig gwasanaeth digideiddio am ddim ar gyfer staff academaidd. I gydymffurfio â’r gofynion penodol hyn sy’n rhan o drwydded Asiantaeth Trwyddedu Hawlfraint Prifysgol Abertawe, ni ddylech wneud eich sganio eich hun ar gyfer Blackboard o waith cyhoeddedig. Mae’n rhaid i ddarnau sydd wedi’u sganio gynnwys hysbysiad hawlfraint, gael eu cadw’n ganolog a’u recordio at ddibenion adrodd blynyddol yr Asiantaeth Trwyddedu Hawlfraint. Y Gwasanaeth Sganio ISS yn unig gaiff sganio’r gwaith felly.
Ewch i dudalen y Gwasanaeth Sganio yma i wneud cais am sganiau. Bydd sganiau digidol yn cysylltu’n uniongyrchol â rhestr darllen eich modiwl. Pan fo tanysgrifiad ar gael i fersiwn electronig o’r gwaith, cysylltwch â chatalog y Llyfrgell drwy ddefnyddio permalink.
Recordio darllediadau gan sefydliadau addysgol
Mae gan y Brifysgol Drwydded Recordio Addysgol (ERA) i gefnogi addysgwyr i fanteisio ar raglenni teledu a radio a ddarlledwyd yn y DU. Cewch recordio darllediadau oddi ar yr awyr i fyfyrwyr nad ydynt wedi’u cynnwys dan drwydded ERA y Brifysgol dan eithriadau hawlfraint. Mae’n ofynnol i chi gydnabod y ffynhonnell ac mae’n berthnasol i ddibenion anfasnachol yn unig.
Ni chewch fod yn ddeiliad yr hawlfraint ar gyfer y gwaith cyhoeddedig. Mae’r hawliau fel arfer yn eiddo i’r cyhoeddwr oni bai eich bod wedi cadw’r hawlfraint wrth lofnodi’r contract. Os nad yw eich llyfr neu’ch erthygl wedi’i chyhoeddi drwy ddefnyddio trwydded Creative Commons, neu os na wnaethoch chi ddefnyddio adendwm awdur, byddai angen i chi fel arfer atgynhyrchu unrhyw ran sydd ei hangen at eich dibenion addysgu dan delerau Trwydded Addysg Uwch yr Asiantaeth Trwyddedu Hawlfraint.
Ceir defnyddio CD sain a brynir yn fasnachol yn yr ystafell ddosbarth ond ni ddylid ei defnyddio wrth recordio darlith.
Nid oes cyfyngiad fel ar arfer ar ddefnyddio podlediadau yr ydych yn eu lawrlwytho o’r we. Sicrhewch eich bod yn edrych ar y datganiad cysylltiedig neu’r drwydded ailddefnyddio er eglurdeb.
Caiff sefydliad addysgol berfformio, chwarae neu ddangos gwaith hawlfraint at ddibenion addysgu neu asesu yn rhan o gwrs achrededig (A34). Mae’n rhaid i’r gynulleidfa gynnwys myfyrwyr, athrawon ac eraill sy’n gysylltiedig â’r sefydliad. Ni cheir perfformio recordiadau sain neu glyweledol i aelodau’r cyhoedd neu unrhyw rai eraill nad ydynt yn gysylltiedig â’r brifysgol heb ofyn am ganiatâd neu drwydded addas yn gyntaf.
Wrth ddangos ffilmiau neu ddefnyddio recordiadau sain a darllediadau, dylech chi sicrhau ffynhonnell unrhyw ddeunydd a geir ar YouTube neu wefannau tebyg. A oes gan y person sy’n postio’r cynnwys ganiatâd i wneud hynny? Ffefrir cysylltu i adnoddau yn hytrach na’u gosod yn eich deunyddiau addysgu. Peidiwch â chysylltu ag unrhyw ddeunydd yr ydych yn amau ei fod yn amharu ar hawlfraint.