Mae Prifysgol Abertawe'n gartref i bum llyfrgell. Y ddwy brif lyfrgell yw Llyfrgell y Bae a Llyfrgell Parc Singleton. Mae'r ddwy'n cynnig gofod croesawgar wedi'i deilwra i gefnogi eich llwyddiant academaidd.
![]() |
![]() |
Llyfrgell y Bae - ar Gampws y Bae, mae'r cyfleuster modern hwn yn cefnogi myfyrwyr Peirianneg, Rheolaeth a Chyfrifiadureg. | Llyfrgell Parc Singleton - Wrth wraidd Campws Singleton, hon yw'r llyfrgell fwyaf ac mae'n cynnig ystod eang o adnoddau ar draws yr holl feysydd pwnc. |
Gall myfyrwyr hefyd ddefnyddio Llyfrgell Parc Dewi Sant, Llyfrgell Glowyr De Cymru a Llyfrgell Banwen. Gallwch ddod o hyd i wybodaeth am safleoedd ein llyfrgelloedd a'r amseroedd agor drwy'r dudalen Oriau Agor a Lleoliadau'r Llyfrgell. Gallwch hefyd gael mwy o wybodaeth drwy ein cwrs Hanfodion Llyfrgell: Archwilio safleoedd y Llyfrgell.
Unwaith i chi gofrestru bydd y ddolen hon yn mynd â chi'n uniongyrchol at y cwrs.
Rydyn ni’n cefnogi dysgu ac addysgu yn bennaf drwy ddarpariaeth ddigidol gan gynnwys eLyfrau, cyfnodolion a chronfeydd data. Mae hyn yn sicrhau bod modd cael mynediad at adnoddau allweddol yn hyblyg ac o bell. Os nad oes fersiynau digidol ar gael, rydyn ni hefyd yn darparu eitemau argraffedig. Gweler y blwch isod am fanylion ynghylch sut i gael mynediad at y rhain. Gallwch chwilio am gynnwys drwy ddefnyddio'r ddolen iFind isod. |
![]() |
Chwilio iFind
Dechreuwch drwy chwilio am y llyfr gan ddefnyddio iFind, prif declyn chwilio'r llyfrgell. Gallwch chwilio yn ôl teitl, awdur, pwnc neu allweddair. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am ddefnyddio iFind drwy glicio ar y tab Chwilio ein Hadnoddau.
Gwirio Lleoliad ac Argaeledd y Llyfr
Unwaith i chi dod o hyd i'r llyfr yn iFind, nodwch:
Defnyddio'r Marc Silff i Ddod o Hyd i'r Llyfr
Ewch i'r llyfrgell gywir a chwiliwch am yr arwyddion i'ch tywys i'r adran gywir. Caiff llyfrau eu trefnu’n rhifiadol yn ôl marc silff, felly dilynwch y rhifau nes i chi gyrraedd yr un cywir. Mae'r llythrennau'n eich helpu chi i ddod o hyd i'r union lyfr o fewn y cwmpas rhifau.
Angen cymorth? Gofynnwch!
Os ydych chi'n cael trafferth dod o hyd i lyfr, mae staff y llyfrgell yn hapus i helpu bob amser.
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am ddod o hyd i lyfr ar y silffoedd yn Nhiwtorial Benthyca Eitemau Hanfodion Llyfrgell.
Gallwch fenthyca'r rhan fwyaf o eitemau o'r llyfrgell yn gyflym ac yn hawdd drwy ddefnyddio ein peiriannau hunanwasanaeth. Tapiwch eich cerdyn adnabod Prifysgol (neu gerdyn eich llyfrgell gartref neu gerdyn adnabod sefydliadol os ydych chi'n fenthyciwr allanol) ar y peiriant, yna dilynwch y cyfarwyddiadau ar y sgrîn i gael eich eitemau. Os yw'n well gennych, gallwch chi hefyd fenthyca eitemau'n uniongyrchol o ddesg y llyfrgell.
Mae'n rhaid i rai eitemau gael eu benthyca'n uniongyrchol o ddesg y llyfrgell. Mae'r rhain yn cynnwys benthyciadau rhwng llyfrgelloedd, deunyddiau o'n storfeydd llyfrgell, ac offer arbenigol sy'n cefnogi anghenion hygyrchedd. Gall myfyrwyr a staff Prifysgol Abertawe fenthyg o unrhyw un o'n pum lleoliad llyfrgell: Llyfrgell Parc Singleton, Llyfrgell y Bae, Llyfrgell Glowyr De Cymru, Llyfrgell Banwen, a Llyfrgell Parc Dewi Sant.
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am fenthyg llyfr yn nhiwtorial Benthyca Hanfodion Llyfrgell. Gallwch hefyd ddod o hyd i arweiniad ar dudalennau gwe'r llyfrgell.
Fel arfer, bydd eich benthyciadau o'r llyfrgell yn adnewyddu'n awtomatig, felly nid oes angen i chi boeni am adnewyddu. Os nad oes rhywun arall wedi cyflwyno cais am yr eitem ac mae’n gymwys am adnewyddiad, bydd y system yn gofalu amdani i chi.
Os am unrhyw reswm nad yw eich benthyciad yn gallu cael ei adnewyddu - er enghraifft, os yw rhywun arall wedi cyflwyno cais amdano - byddwch yn derbyn hysbysiad e-bost i roi gwybod i chi pryd mae angen i chi ei ddychwelyd.
Gallwch gadw cofnod o'ch benthyciadau drwy fewngofnodi i'ch cyfrif iFind. Yna byddwch yn gweld:
Sylwer: gall dyddiadau dychwelyd newid os yw eitem yn cael ei had-alw, ond peidiwch â phoeni - byddwn yn eich e-bostio os bydd hyn yn digwydd fel eich bod yn ymwybodol.
Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am adnewyddu eitemau'r llyfrgell ar dudalennau gwe'r llyfrgell.
Mae'r rhan fwyaf o leoedd yn y llyfrgell ar gael i'w defnyddio heb archebu ymlaen llaw. Mae croeso i chi alw heibio a dod o hyd i fan tawel, bwrdd grŵp, neu sedd gyfforddus i astudio pryd bynnag y mynnoch. Mae enghreifftiau o'r lleoedd hyn yn cynnwys mannau astudio i grwpiau a lleoedd â chyfrifiadur. Gallwch ddod o hyd i'r holl fanylion am leoedd i’w harchebu yma: Lleoedd Astudio i'w Harchebu yn y Llyfrgell. Gallwch archebu lle astudio drwy ddefnyddio ein system archebu ar-lein. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth am archebu lleoedd yn Nhiwtorial Archebu Lleoedd Hanfodion Llyfrgell. |
![]() |
Mae'r holl argraffwyr amlddefnydd (MFP) yn y llyfrgell yn eich galluogi i argraffu, copïo a sganio. I'w defnyddio:
Tip: Os ydych chi'n anghofio eich cerdyn, gallwch fewngofnodi gan ddefnyddio eich manylion prifysgol.
Mae rhagor o arweiniad ar gael ar y dudalen argraffu, copïo, sganio.