Skip to Main Content

Dechrau Arni Gyda'r Llyfrgell

This page is also available in English

iFind

iFind yw prif declyn chwilio'r llyfrgell. Mae'n eich galluogi i chwilio am:

  • e-lyfrau a llyfrau print
  • Erthyglau mewn cyfnodolion
  • Cronfeydd data
  • Traethodau ymchwil a mwy

Dylai pob un o'ch modiwlau yn Canvas fod â rhestr ddarllen, wedi'i chreu gan eich darlithwyr. Bydd eich rhestr ddarllen yn eich cysylltu â deunyddiau y gallwch chi gael mynediad atynt yn iFind. Gallwch hefyd gael mynediad at eich rhestrau darllen yn iFind Reading.

Gallwch ddod o hyd i arweiniad ynghylch sut i ddefnyddio iFind isod.

iFind the library catalogue

Chwilio am lyfrau

Defnyddiwch iFind i chwilio am lyfrau drwy'r:

  • Teitl (e.e., Cyflwyniad i Seicoleg)
  • Awdur (e.e., Smith, John)
  • Allweddeiriau (e.e., polisi newid hinsawdd)

Mae iFind yn gwneud chwiliad Llyfrau a mwy, a fydd yn cynnwys canlyniadau ar gyfer e-lyfrau a chopïau caled o lyfrau ar silffoedd y llyfrgell.Defnyddiwch yr hidlydd i gyfyngu'ch canlyniadau yn ôl fformat, dyddiad neu leoliad. Argymhellir i chi fewngofnodi i iFind cyn i chi ddechrau chwilio. Mae'r botwm mewngofnodi yng nghornel uchaf y sgrîn iFind.

iFind

Unwaith i chi chwilio iFind gallwch hidlo eich canlyniadau i ddod o hyd i'r Testun Llawn Ar-lein, os ydych eisiau sicrhau bod yr holl ganlyniadau ar gael i'w darllen ar-lein.

iFind