Os nad ydych chi'n siŵr sut i gael mynediad at adnoddau ar-lein, sut i archebu ystafell astudio, sut i ychwanegu credyd i'ch cyfrif argraffu neu unrhyw beth arall sy'n ymwneud â defnyddio'r llyfrgell - mae ein tudalen Cwestiynau Cyffredin yn lle gwych i ddechrau. Rydym wedi casglu'r atebion i'r cwestiynau mwyaf cyffredin y mae myfyrwyr yn eu gofyn, i chi ddod o hyd i'r wybodaeth sydd ei hangen arnoch yn gyflym, ar unrhyw adeg. P'un a ydych chi'n newydd i'r llyfrgell neu angen nodyn atgoffa cyflym, pwrpas y cwestiynau cyffredin yw eich helpu chi i gael y gorau o'n gwasanaethau. |
![]() |
Llyfrgelloedd a Chasgliadau yw eich pwynt cyswllt cyntaf ar gyfer cymorth cyffredinol. Gallwn gynorthwyo gyda gwasanaethau ac adnoddau canlynol y llyfrgell. Mae hyn yn cynnwys y canlynol ond nid yw'n rhestr gyflawn:
Gallwch siarad ag aelod o Lyfrgelloedd a Chasgliadau wyneb yn wyneb yn Llyfrgell y Bae neu Lyfrgell Parc Singleton. Fel arall, gallwch gysylltu â nhw drwy e-bost, ffôn neu sgwrs. Gallwch ddod o hyd i ragor o wybodaeth a chysylltu â nhw gan ddefnyddio'r ddolen hon. |
![]() |