
Canllawiau'r Llyfrgell ym Mhrifysgol Abertawe yw eich adnodd hanfodol er mwyn cael y gorau o'r llyfrgell a'ch astudiaethau. Wedi'u creu gan lyfrgellwyr pwnc, mae'r canllawiau ar-lein hyn wedi’u teilwra i'ch cwrs neu’ch maes pwnc er mwyn eich helpu chi i:
- Ddod o hyd i'r adnoddau gorau - gan gynnwys llyfrau, cyfnodolion a chronfeydd data sy'n berthnasol i'ch pwnc.
- Dysgu sut i ymchwilio'n effeithiol - gyda chyngor ar chwilio, cyfeirnodi, a gwerthuso gwybodaeth.
- Cael cymorth academaidd - gan gynnwys arweiniad ar ddefnyddio offer cyfeirnodi ac osgoi llên-ladrad.
- Cysylltu â'ch Tîm Cymorth Academaidd - mae pob canllaw yn cynnwys manylion cyswllt ein tîm, a all helpu gyda chwestiynau mwy manwl.
P'un a ydych chi'n ysgrifennu eich aseiniad cyntaf neu'n gweithio ar eich traethawd hir, mae Canllawiau'r Llyfrgell yma i'ch helpu chi bob cam o'r ffordd.