Gall defnyddio delweddau a deunydd clyweled fod yn her oherwydd natur gymhleth yr hawliau sydd ynghlwm. Mae amrywiaeth eang o ddelweddau a gwaith artistig, wedi'u creu gan unigolion neu eu cynhyrchu gan gyfrifiaduron, sy'n cwmpasu nifer mawr o fodelau masnachol. Yn debyg i ddeunyddiau ar sail testun, mae'r rhain i gyd yn destun hawlfraint, p'un a ydynt yn deillio o ffynhonnell argraffedig neu electronig. Gall y mathau o ddelweddau gynnwys graffiau, siartiau, diagramau, celfyddyd gain, darluniadau, cartwnau, ffotograffau ayb.
I gynorthwyo myfyrwyr ac athrawon i ddefnyddio delweddau mewn modd cyfreithlon a moesegol, awgrymwn eich bod yn canolbwyntio ar y math o ddelwedd mae'n syml cael caniatâd i'w defnyddio. Yn aml, mae delweddau sydd ar gael drwy drwyddedau Creative Commons, heb angen gofyn am ganiatâd deiliad yr hawlfraint (parth cyhoeddus), a chasgliadau cynnwys addysgol, yn ffynonellau priodol i'w defnyddio. Dylech bob amser wirio'r amodau a thelerau ailddefnyddio.
Ydy'r eithriad 'delio'n deg' yn berthnasol i ddelweddau?
Mae'n debygol y byddwch am ddefnyddio'r ddelwedd gyfan, yn hytrach na rhan ohoni, felly nid yw hyn yn fater syml. Gallech ddibynnu ar yr egwyddor 'delio'n deg' pe byddech yn defnyddio delwedd cydraniad isel, neu'n penderfynu y gallech ddibynnu ar eithriad addysgol. Byddai rhaid eich bod yn defnyddio'r ddelwedd at ddibenion anfasnachol, ymchwil, neu astudio preifat, dyfynnu, beirniadu neu adolygu, neu fel enghraifft at ddibenion addysgol. Os hoffech ddefnyddio delwedd mewn gwaith cyhoeddedig, dylech bob amser ofyn am ganiatâd deiliad yr hawlfraint a chadw copi o'ch gohebiaeth. Ni fyddai delio'n deg yn berthnasol i ddefnyddio ffotograff cydraniad uchel yn yr amgylchiadau hyn.
Mae Creative Commons (CCL) yn drwyddedau wedi'u llunio ymlaen llaw â'r bwriad o helpu deiliaid hawlfraint i ddosbarthu eu gwaith; maent yn diffinio sut gall eraill ei ddefnyddio heb yr angen i roi caniatâd bob tro mae rhywun am ei ddefnyddio.
Gall fod yn ddefnyddiol i chi wybod y gallwch chwilio yn Google am ddeunydd sy'n destun trwydded Creative Commons, drwy ddefnyddio'r nodwedd chwiliad uwch a phennu'r hawliau defnyddio. Rhowch gynnig arni yma.
Mae Creative Commons yn cynnig nifer o drwyddedau model y gall awduron eu defnyddio fel y maent neu eu haddasu yn ôl eu gofynion. Mae pedair prif elfen gan y trwyddedau:
Mae'r elfennau hyn yn cyfuno wedyn i ffurfio chwe thrwydded ynghyd â thrwydded CC Sero neu drwydded parth cyhoeddus, sy'n golygu yr hepgorir yr holl hawliau i'r deunydd sy'n destun y math hwn o drwydded.
Mae'n hanfodol gwirio'r drwydded a gwerthuso beth gellir ei wneud â'r deunyddiau ym mhob achos.