Skip to Main Content

Y Clasuron, Hen Hanes ac Eifftoleg: Cronfeydd data a Chyfnodolion

This page is also available in English

Dod o hyd i erthyglau cyfnodolion a defnyddio cronfeydd data

Mae erthyglau cyfnodolion academaidd yn ffynhonnell ardderchog o wybodaeth ysgolheigaidd ar eich pwnc. Dyma ychydig o awgrymiadau ar gyfer dod o hyd i erthyglau cyfnodolion:-

  • Yn aml bydd gan erthyglau ar eich rhestrau darllen ddolen i adael ichi ddarllen y testun ar unwaith
  • Defnyddiwch y chwiliad Erthyglau a mwy  yn iFind, yn enwedig os ydych chi'n gwybod enw'r erthygl rydych chi ei eisiau
  • Fe welwch ganlyniadau mwy perthnasol os ydych chi'n chwilio cronfeydd data arbenigol - Gallwch weld rhai awgrymiadau isod.
  • Defnyddiwch y crynodeb (crynodeb o'r erthygl) i'ch helpu chi i benderfynu a yw erthygl yn berthnasol i chi

Gallwch ddefnyddio iFind i ddod o hyd i erthyglau cyfnodolion ar bwnc neu gan awdur penodol. Os ydych chi am gynnal chwiliad mwy trylwyr mae'n well defnyddio cronfeydd data electronig. Mae rhai o'r cronfeydd data hyn (e.e. JSTOR) yn cynnwys erthyglau testun llawn, tra bod eraill (e.e. Web of Science) yn cynnwys cyfeiriad (neu gofnod) a chrynodeb o'r erthygl yn unig. Yn yr achos hwn, byddwch yn aml yn gweld dolen 'iGetIt @ Prifysgol Abertawe' y gallwch glicio arno i weld a ydym yn dal yr erthygl yma.

Adnoddau allweddol

Chwilio'n effeithiol gyda Google

Gall Google fod yn offeryn defnyddiol at ddiben dod o hyd i wybodaeth ar-lein. Fodd bynnag, gall fod yn anodd nodi'r ffynonellau mwyaf perthnasol a dibynadwy o wybodaeth o restr o filoedd neu filiynau o ganlyniadau. Peidiwch â chymryd yn ganiataol y bydd y rhai gorau ar frig y rhestr! Bydd y strategaethau canlynol yn eich helpu i chwilio'n fwy effeithiol ar Google.

Chwilio ar wefan neu grŵp o wefannau

Defnyddiwch eich allweddeiriau a'r gorchymyn site:url i ddod o hyd i ganlyniadau o un wefan neu grŵp o wefannau. Er enghraifft, bydd chwilio am cyfnod sylfaen site:gov.wales yn dod o hyd i wybodaeth am y Cyfnod Sylfaen o wefan Llywodraeth Cymru. Gallech ddefnyddio site:ac:uk i chwilio gwefannau academaidd.

Chwilio am fath penodol o ddogfen

Defnyddiwch y gorchymyn filetype: i gyfyngu'ch chwiliad i fath penodol o ddogfen. Gall hyn fod yn ddefnyddiol os ydych yn chwilio am fath penodol o wybodaeth. Er enghraifft, os ydych yn meddwl bod dogfennau'r llywodraeth yn fwy tebygol o gael eu cyhoeddi ar ffurf PDF, gallech ddefnyddio filetype:pdf i gyfyngu'ch canlyniadau i ffeiliau PDF a'i gwneud yn haws dod o hyd i'r wybodaeth mae ei hangen arnoch. Mae data rhifiadol yn debygol o ymddangos mewn taenlen, felly gallech ddefnyddio filetype:xls i chwilio am ddogfennau Excel.

Mae Google Scholar yn chwilio llenyddiaeth ysgolheigaidd megis erthyglau mewn cyfnodolion a chrynodebau, ond efallai y bydd yn anodd dod o hyd i destun llawn y deunydd yn eich canlyniadau. Bydd cysylltu'ch cyfrif Google Scholar â Phrifysgol Abertawe yn helpu gyda hyn. Ewch i'r eicon gosodiadau ar frig y sgrin.  

Wedyn ewch i Library Links i ddod o hyd i Brifysgol Abertawe.

Pam defnyddio cronfeydd data'r llyfrgell yn lle Google Scholar?

Er bod Google Scholar yn gallu bod yn ddefnyddiol, mae gan iFind a chronfeydd data pwnc eraill, megis Science Direct, rai manteision allweddol:

  • Y gallu i nodi erthyglau sydd wedi cael eu hadolygu gan gymheiriaid

  • Mynediad hawdd i grynodeb o'r erthygl

  • Mynediad hawdd i'r erthygl lawn, os yw ar gael, heb unrhyw gost ychwanegol.

  • Dyfyniadau a rhestrau o gyfeiriadau ar gyfer pob erthygl - yn ddefnyddiol ar gyfer ehangu'ch deunydd darllen.

  • Y gallu i chwilio am destunau cyn eu cyhoeddi.

  • Y gallu i fod yn fwy trefnus - opsiynau i e-bostio, lawrlwytho ac integreiddio â rheolwyr llyfryddiaeth (fel EndNote).

A-Z of Adnoddau

Dyma restr o’r cronfeydd data sy’n berthnasol i fyfyrwyr Y Clasuron, Hen Hanes ac Eifftoleg. Archwiliwch yr a-z neu edrychwch ar y tudalennau canlynol ar gyfer mwy o gyfarwyddyd i’r cronfeydd data. Os ydych chi’n clicio ar ‘edrych ar fwy o ganlyniadau’ gallwch archwilio ein holl gronfeydd data, derbyn mynediad i ddisgrifiadau cronfa data a hidlo drwy’r math o gronfa ddata.

Methu dod o hyd i'r hyn rydych yn chwilio amdano?

Browzine

LibKey Nomad