Skip to Main Content

Y Clasuron, Hen Hanes ac Eifftoleg: Casgliadau Arbennig Eifftoleg

This page is also available in English

Casgliadau Arbennig yn y Llyfrgell

Mae’r casgliadau o lyfrau, pamffledi ac erthyglau mewn cylchgronau ar yr Aifft a’r Dwyrain Agos a roddwyd i’r brifysgol ar Lefel 3 yn Adain y Dwyrain. Maent i’w gweld yn y catalog iFind.  Enwir y casgliadau ar ôl yr ysgolheigion enwog a oedd yn  eu perchen.

Casgliad Gardiner

Casgliad mawr o bamffledi ar Eifftoleg a Dwyrain Agos yr henfyd oedd yn perthyn i lyfrgell bersonol Syr Alan Gardiner (1879–1963), yr Eifftolegydd o fri a’r ysgolhaig ieithyddol. Mae’r rhain yn cynnwys llawer o wahanlithoedd o gylchgronau. Mae’r pamffledi ar fenthyciad parhaol o Lyfrgell Sackler ym Mhrifysgol Rhydychen. Mae llawer o’r ysgrifeniadau mewn Almaeneg, Ffrangeg neu Eidaleg.

Casgliad Francis Llewellyn Griffith

Casgliad bychan o fwy na chant o lyfrau ac eitemau eraill ar Aifft yr henfyd a’r Dwyrain Agos a fu ar un adeg yn rhan o lyfrgell fawr Francis Llewellyn Griffith (1862–1934), a ddisgrifir yn briodol yn yr Oxford Dictionary of National Biography fel un o dadau Eifftoleg ym Mhrydain. Mae llawer o’r cyfrolau’n ymwneud â chloddiadau archaeolegol.

Casgliad Gwyn Griffiths

Casgliad o lyfrau a chylchgronau ar Eifftoleg a Dwyrain Agos yr henfyd oedd yn eiddo i’r Athro J. Gwyn Griffiths (1911-2004), a fu’n rhan o Adran y Clasuron ac Eifftoleg o 1946 nes iddo ymddeol yn 1979, a’i wraig, oedd yr un mor nodedig, Dr. Kate Bosse-Griffiths (1910-1998), curadur cyntaf casgliad Canolfan yr Aifft. Maent yn ymdrin ag amrywiaeth eang o bynciau, gan gynnwys crefydd a mytholeg. Fe’u rhoddwyd i’r llyfrgell pan fu’r Athro Griffiths farw.

Casgliad DuQuesne

Llyfrau o lyfrgell yr Eifftolegydd Terence DuQuesne a roddwyd i’r llyfrgell yn 2014 wedi iddo farw. Mae rhyw 300 o lyfrau a nifer bach o gyfnodolion.  Mae’r casgliad yn adlewyrchu diddordeb DuQuesne  mewn crefydd Eifftaidd.