Gallwch ddefnyddio iFind, catalog y llyfrgell, i
ddod o hyd i lyfrau print ac e-lyfrau. Wrth chwilio am lyfr penodol rydym yn argymell defnyddio un neu ddau air allweddol y teitl a chyfenw'r awdur. Yna gallwch hidlo trwy glicio ar 'Testun llawn ar-lein' i ddod o hyd i e-lyfr. Mae hefyd yn ddefnyddiol dewis 'Llyfau a mwy' yn hytrach na chwilio o 'bopeth".Mae canllaw i iFind o dan y testun hwn. Mae yna hefyd ganllaw ar ddod o hyd i'ch llyfrau ar silffoedd y llyfrgell.
Mae nifer o’r llyfrau a chylchgronau printiedig sy’n cael eu defnyddio i astudio’r Clasuron, Hen Hanes ac Eifftoleg yn y lleoliadau a ganlyn
DE, DF, DG | Hanes Groeg a Rhufain | Lefel 2 Gorllewin |
DT | Hanes yr Aifft | Lefel 2 Gorllewin |
PA | Llenyddiaeth Lladin a Groeg | Lefel 1 Gorllewin |
Mae rhai llyfrau cyfeiriadol am y Clasuron a Hen Hanes yng Nghasgliad Cyfeiriadol y Neuadd Astudio ar Lefel 3 Gorllewin.
Mae llawer o lyfrau cyfeiriadol am yr Hen Aifft yng Nghasgliad Cyfeiriadol ar Eifftoleg, Lefel 3 Dwyrain
Mae llyfrau ym Mhrifysgol Abertawe yn cael eu hadnewyddu'n awtomatig oni bai bod defnyddiwr arall yn gofyn amdanynt. Os yw'r llyfr rydych chi ei eisiau ar fenthyg mae'n bwysig iawn eich bod chi'n mewngofnodi i iFind ac yn gofyn am y llyfr. Cofiwch wirio'ch e-bost yn rheolaidd rhag ofn y gofynnwyd am lyfrau rydych chi'n eu benthyg.
Gellir dod o hyd i’r rhan fwyaf o’n e-lyfrau drwy iFind. Mae ein e-lyfrau ar gael drwy dair brif wefan: Proquest, EBSCO a VLE. Bydd y tabiau hyn yn dweud ychydig yn rhagor i chi am y tair prif gronfa ddata. I logio i mewn, defnyddiwch eich rhif myfyriwr 6 digid fel eich enw defnyddiwr a’ch cyfrinair arferol.
Mae Proquest Ebook Central yn cynnig e-lyfrau awdurdodol mewn ystod eang o feysydd pwnc, ynghyd ag offer grymus i’ch cynorthwyo i ganfod, defnyddio a rheoli’r wybodaeth yr ydych ei hangen.
Mae platfform VLeBooks yn darparu ystod o e-lyfrau ar nifer fawr o bynciau.
Casgliad digidol yw’r E-Lyfr Humanities a gynigir gan y ACLS mewn cydweithrediad â deg cymdeithas ddysgedig, bron i 80 o gyhoeddwyr sy'n cyfrannu, a llyfrgellwyr yn Swyddfa Cyhoeddi Ysgolheigaidd Prifysgol Michigan. Y canlyniad yw casgliad ar-lein, chwiliadwy o lyfrau o safon uchel yn y Dyniaethau, wedi’u hargymell a'u hadolygu gan ysgolheigion.