Mae eich llyfrgellwyr pwnc yma i’ch helpu chi. Gallwn eich helpu chi i ddod o hyd i wybodaeth, i ddefnyddio adnoddau’r llyfrgell, i ymgymryd â gwaith ymchwil ac i gyfeirnodi yn gywir. Gallwch hefyd gysylltu â ni gydag unrhyw ymholiad yn ymwneud â’r llyfrgell.
Ar y tudalennau hyn mae yna adnoddau allweddol, cynghorion ac arweiniad i’ch cefnogi gydag eich astudiaethau a’ch ymchwil. Cliciwch ar y tabiau ar frig y dudalen i ddod o hyd i wybodaeth am wahanol fathau o ffynonellau. Peidiwch ag anghofio y gallwch wastad gysylltu â’ch llyfrgellwyr os ydych angen cymorth i ddod o hyd i wybodaeth, i ddefnyddio cronfeydd data, cyfeirnodi neu unrhyw beth arall yn ymwneud â’r llyfrgell.
![]() |
![]() |
![]() |
![]() |
Helo, ni yw Sean Barr, Bernie Williams, Jill Morris Siân Neilson a Carine Harston ac rydym yma i’ch helpu i ddod o hyd i wybodaeth, i ddefnyddio cronfeydd data, cyfeirnodi ac unrhyw beth arall sy’n ymwneud â’r llyfrgell.
Mae’r Brifysgol yn cynllunio ar gyfer dychwelyd i’w champysau ac ailagor gwasanaethau gan roi’r flaenoriaeth uchaf i iechyd a diogelwch myfyrwyr a staff. Yn unol â chanllawiau gan Lywodraeth Cymru a rheolwyr y Brifysgol, mae staff y Llyfrgelloedd wedi bod yn gweithio’n agos gyda chydweithwyr yn yr Adrannau Iechyd a Diogelwch ac Ystadau i gynllunio proses ddychwelyd ddiogel, fesul cam, a fydd yn ein galluogi i sicrhau pellter cymdeithasol o ddau fetr, mannau hylif diheintio dwylo a chyn lleied o gyswllt â phosib wrth ddarparu gwasanaethau. Edrychwch ar ein tudalen we i dderbyn yr wybodaeth ddiweddaraf.