Skip to Main Content

Fferylliaeth: Gwefannau

This page is also available in English

Gwerthuso gwefannau

Mae dod o hyd i wybodaeth ar y rhyngrwyd yn hawdd, ond mae dod o hyd i wybodaeth sydd o safon dda ac sy’n ddibynadwy yn anoddach nag y byddwch yn ei ddisgwyl. Darllenwch ein geiriau o gyngor yn yr adran hon ar sut i wneud y defnydd gorau o gynnal chwiliadau ar-lein. Cyn i chi ddefnyddio unrhyw adnodd o’r rhyngrwyd ar gyfer eich aseiniad dylech chi ofyn i’ch hun “A yw’r dudalen we hon gystal â’r wybodaeth y byddwch chi’n dod o hyd iddi mewn llyfr neu gyfnodolyn academaidd?”

Gall unrhyw un greu tudalennau gwe felly, cyn i chi gyfeirnodi gwefan, dylech chi wirio bod y wybodaeth yn ddibynadwy ac yn gywir.

Dylech wirio:

  • Pwy ysgrifennodd y wybodaeth? A ydynt yn meddu ar y cymwysterau priodol? A ydynt wedi ysgrifennu deunydd arall ar y pwnc? A ydynt yn dangos rhagfarn?
  • Pryd gafodd y wybodaeth ei chyhoeddi? A yw’n ddigon cyfoes ar gyfer eich anghenion chi?
  • Pam cafodd y dudalen ei gosod ar y we? A yw’n gwerthu neu’n hyrwyddo rhywbeth? A yw’n rhagfarnllyd?

Chwiliwch am gliwiau yn yr URL

  • .com – cwmni masnachol
  • .co.uk – cwmni masnachol yn y Deyrnas Unedig​​
  • .edu – sefydliad academaidd yn yr Unol Daleithiau
  • .ac.uk – sefydliad academaidd yn y Deyrnas Unedig
  • .org - sefydliad dielw
  • .gov neu .gov.uk – safle llywodraeth yr Unol Daleithiau neu’r Deyrnas Unedig

Ydych chi’n cael trafferth wrth geisio dod o hyd i’r hyn sydd ei hangen arnoch chi ar Google?

Dyma rai geiriau o gyngor i’ch helpu i wella eich canlyniadau!

Ydych chi’n parhau i brofi trafferthion wrth geisio dod o hyd i ddigon o adnoddau academaidd ar Google?

Rhowch gynnig ar ddefnyddio Google Scholar sy’n chwilio am lenyddiaeth ysgolheigaidd yn unig. Mae modd cysylltu Google Scholar â thanysgrifiadau Prifysgol Abertawe, ceir cyfarwyddiadau cyflawn yn y canllawiau isod.

Dyma rai dolenni defnyddiol efallai hoffech chi eu harchwilio yn fanylach:

Gwefannau defnyddiol

Fferylliaeth gymunedol

Newyddion, addysg ac offer hyfforddi ar gyfer fferyllwyr cymunedol

Mae Fferylliaeth Gymunedol Cymru'n cynrychioli dros 700 o berchnogion fferyllfeydd yng Nghymru ar faterion y GIG.

lefel y DU/Ewrop: Y Gymdeithas masnachu ar gyfer perchnogion fferyllfeydd cymunedol yn y DU. Mae bron pob un o fferyllfeydd yn y DU yn aelodau gwirfoddol.

Mae'r PSNC yn hyrwyddo ac yn cefnogi buddiannau holl fferyllfeydd cymunedol y GIG yn Lloegr. Mae'n cael ei gydnabod gan yr Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd fel corff sy'n cynrychioli contractwyr fferyllfeydd y GIG. Mae'n gweithio'n agos gyda'r Pwyllgorau Fferyllol Lleol (LPCs) i gefnogi eu rôl fel sefydliadau sy'n cynrychioli'r GIG yn lleol

Rhagnodi/Therapiwteg

Ei nod yw cael ei chydnabod fel yr awdurdod ar therapiwteg a thocsicoleg yng Nghymru, gan gysylltu â gweithwyr gofal iechyd proffesiynol, eu hysbysu a’u cynorthwyo , gan gynnwys cleifion a'r cyhoedd a chynghori Llywodraeth Cymru, yn ogystal â gweithio gyda'r diwydiant fferyllol

Gwybodaeth am feddyginiaethau wedi'u trwyddedu yn y DU

Gwybodaeth am gyffuriau drwy MedlinePlus, drwy Gymdeithas Fferyllwyr System Iechyd America

Yn darparu gwybodaeth am gost-effeithiolrwydd cyffuriau presgripsiwn

Yn rhoi arweiniad, cyngor a chymorth i gyflawni safon, diogelwch ac effeithlonrwydd wrth ddefnyddio meddyginiaethau

Gwybodaeth a chyngor yn seiliedig ar dystiolaeth yn y DU ar ddefnydd therapiwtig o feddyginiaethau

Gwerthuso gwefannau

Mae dod o hyd i wybodaeth ar y rhyngrwyd yn hawdd, ond mae dod o hyd i wybodaeth sydd o safon dda ac sy’n ddibynadwy yn anoddach nag y byddwch yn ei ddisgwyl. Darllenwch ein geiriau o gyngor yn yr adran hon ar sut i wneud y defnydd gorau o gynnal chwiliadau ar-lein. Cyn i chi ddefnyddio unrhyw adnodd o’r rhyngrwyd ar gyfer eich aseiniad dylech chi ofyn i’ch hun “A yw’r dudalen we hon gystal â’r wybodaeth y byddwch chi’n dod o hyd iddi mewn llyfr neu gyfnodolyn academaidd?”

Gall unrhyw un greu tudalennau gwe felly, cyn i chi gyfeirnodi gwefan, dylech chi wirio bod y wybodaeth yn ddibynadwy ac yn gywir.

Dylech wirio:

  • Pwy ysgrifennodd y wybodaeth? A ydynt yn meddu ar y cymwysterau priodol? A ydynt wedi ysgrifennu deunydd arall ar y pwnc? A ydynt yn dangos rhagfarn?
  • Pryd gafodd y wybodaeth ei chyhoeddi? A yw’n ddigon cyfoes ar gyfer eich anghenion chi?
  • Pam cafodd y dudalen ei gosod ar y we? A yw’n gwerthu neu’n hyrwyddo rhywbeth? A yw’n rhagfarnllyd?

Chwiliwch am gliwiau yn yr URL

  • .com – cwmni masnachol
  • .co.uk – cwmni masnachol yn y Deyrnas Unedig​​
  • .edu – sefydliad academaidd yn yr Unol Daleithiau
  • .ac.uk – sefydliad academaidd yn y Deyrnas Unedig
  • .org - sefydliad dielw
  • .gov neu .gov.uk – safle llywodraeth yr Unol Daleithiau neu’r Deyrnas Unedig

Ydych chi’n cael trafferth wrth geisio dod o hyd i’r hyn sydd ei hangen arnoch chi ar Google?

Dyma rai geiriau o gyngor i’ch helpu i wella eich canlyniadau!

Ydych chi’n parhau i brofi trafferthion wrth geisio dod o hyd i ddigon o adnoddau academaidd ar Google?

Rhowch gynnig ar ddefnyddio Google Scholar sy’n chwilio am lenyddiaeth ysgolheigaidd yn unig. Mae modd cysylltu Google Scholar â thanysgrifiadau Prifysgol Abertawe, ceir cyfarwyddiadau cyflawn yn y canllawiau isod.

Dyma rai dolenni defnyddiol efallai hoffech chi eu harchwilio yn fanylach:

Ymarfer Fferylliaeth

Y gymdeithas masnachu ar gyfer mwy na 90 o gwmnïau fferyllol yn y DU sy'n cynhyrchu meddyginiaethau at ddefnydd pobl

Sefydliad myfyrwyr swyddogol Cymdeithas Fferyllol Frenhinol Prydain Fawr

Newyddion, Safonau, Archwiliadau, Addysg a Hyfforddiant

Corff proffesiynol ar gyfer fferyllwyr cymunedol a thechnegwyr fferyllol. Mae aelodaeth AM DDIM i fyfyrwyr fferylliaeth ym Mhrydain Fawr sy'n astudio mewn sefydliad sy'n cael ei gydnabod gan y Gymdeithas

Mae aelodaeth am ddim i fyfyrwyr sy'n aelodau o'r BPSA. Mae’n cynnig cyfleoedd i rwydweithio, cydweithio, rhannu arfer gorau ac ysbrydoli arloesi. Mae’n darparu addysg a hyfforddiant a arweinir gan ymarferwyr ar gyfer y gweithlu fferylliaeth, ac mae wedi'i hachredu fel darparwr hyfforddiant gan y corff proffesiynol ar gyfer fferylliaeth ym Mhrydain Fawr, y Gymdeithas Fferyllol Frenhinol.

Safleoedd defnyddiol eraill ar gyfer Fferylliaeth

O WebMD: gwybodaeth fferyllol am gyffuriau brand a generig

Chwilio am dermau a byrfoddau meddygol

O Lyfrgell Meddygaeth Genedlaethol yr UD: effeithiau ar iechyd wrth ddod i gysylltiad â chemegau yn y gwaith

Gwybodaeth am Dreialon Clinigol

Mae ClinicalTrials.gov yn gofrestrfa ac yn gronfa ddata o ganlyniadau astudiaethau clinigol a gefnogir yn gyhoeddus ac yn breifat o gyfranogwyr dynol a gynhelir ledled y byd.

Sefydlwyd y gronfa ddata hon fel "platfform gwirfoddol i gysylltu cofrestrau treialon clinigol er mwyn sicrhau un pwynt mynediad a nodi treialon yn ddiamwys â’r nod o wella mynediad at wybodaeth ar gyfer cleifion, teuluoedd, grwpiau o gleifion ac eraill".

Mae cofrestrfa'r ISRCTN yn gofrestrfa treialon clinigol sylfaenol sy'n cael ei chydnabod gan Sefydliad Iechyd y Byd a’r ICMJE ac sy'n derbyn yr holl astudiaethau ymchwil clinigol (boed yn rhai arfaethedig, rhai sy’n parhau neu sydd wedi'u cwblhau), gan ddilysu cynnwys a churadu a darparu’r rhif adnabod unigryw sy'n angenrheidiol ar gyfer cyhoeddi. Mae'r holl gofnodion astudiaethau yn y gronfa ddata ar gael am ddim a gallwch chwilio'r gronfa.

Mae'r Gofrestr Ymchwil Genedlaethol (NRR) yn gofrestr wedi'i harchifo o brosiectau ymchwil wedi'u cwblhau a ariannwyd  gan Wasanaeth Iechyd Gwladol y Deyrnas Unedig neu sydd o ddiddordeb iddo. Cedwir gwybodaeth am dros 80,000 o brosiectau ymchwil. Fe'i caewyd yn 2007.

Cronfa ddata o ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol a gynhelir ledled y DU.
Mae hyn yn cynnwys 'treialon clinigol' ac 'ymchwil iechyd a gofal cymdeithasol' yn ogystal ag astudiaethau sy'n cael eu cynnal ar hyn o bryd ar unrhyw gyflwr neu faes clefyd.