Pam y dylwn i rannu fy nata?
Mae Egwyddorion Cyffredin y Cyngor Ymchwil ar bolisi data'n dweud:
‘Publicly funded research data are a public good, produced in the public interest, which should be made openly available with as few restrictions as possible in a timely and responsible manner.’
Caiff yr egwyddor hon ei chryfhau ymhellach yn y Concordat ar Ddata Ymchwil Agored (PDF) sy'n cydnabod y dylai data ymchwil fod ar gael i'w ddefnyddio gan eraill, lle bynnag y bo'n bosib, mewn modd sy'n gyson â fframweithiau cyfreithiol, disgyblaethol a rheoleiddiol perthnasol, a chan roi sylw dyledus i'r gost dan sylw.
Os nad yw prosiectau'n rhannu canlyniadau ymchwil a data atodol, ceir perygl o ddyblygu ymdrech yn y broses o gasglu'r fath data eto.
Mae llawer o gyllidwyr bellach yn gofyn i ymchwilwyr rannu eu data ac mae eraill yn annog yr arfer (gwiriwch ofynion y cyllidwr yn https://libguides.swansea.ac.uk/cymorth-data/esbonio-rdm).
Cyfrifoldeb y Prif Ymchwilydd yw sicrhau bod prosiectau'n bodloni disgwyliadau ei gyrff cyllido wrth ystyried sut a phryd i rannu data ymchwil.
Mae rhannu data'n galluogi prosiectau eraill i adeiladu ar eich gwaith.
Gweler hefyd Egwyddorion Craidd yr EPSRC sy'n cyd-fynd ag egwyddorion yr RCUK ar rannu data
Adnoddau Ychwanegol