Mae Cynllun Rheoli Data (DMP) yn gyfle ichi esbonio i'r cyllidwr a phobl eraill y gallent fod yn ymddiddori yn eich data sut byddwch yn gwneud yn siŵr eich bod chi a'ch tîm yn trin ac yn curadu'r data'n briodol, gan gydymffurfio â'ch holl ddyletswyddau a gofynion cyfreithiol. Mae'n nodi eich bwriadau, gweithdrefnau wedi'u cynllunio a chyfrifoldebau ynglŷn â rheoli data ymchwil.
Offer ar-lein ar gyfer Cynllunio Rheoli Data
- Bydd DMPOnline gan y DCC yn eich helpu i lunio cynlluniau wedi'u teilwra ar gyfer prif gyllidwyr y Deyrnas Unedig
- Arweinlyfr Prifysgol Caerfaddon i DMPs ar gyfer Arianwyr UKRI
Beth y mae angen ei gynnwys mewn cynllun?
Bydd y gofynion manwl gywir yn amrywio rhwng cyllidwyr a disgyblaethau ond ceir rhai elfennau allweddol i'w hystyried:
- Y prosiect a'i gyd-destun - pam a sut y caiff eich data ei greu.
- Fformatau data - bydd angen ichi ystyried y feddalwedd y byddwch yn ei defnyddio, a fydd modd defnyddio’r feddalwedd honno yn y dyfodol, sut caiff eich data ei strwythuro, ei ddogfennu a'i wirio o ran ansawdd, er mwyn iddo fod yn ddealladwy i bobl eraill.
- Ystyriaethau moesegol - mae hyn yn gallu amrywio o ystyried a ydych wedi cael cydsyniad gan destunau ymchwil i ddefnyddio eu data, i bwy a allai fod yn berchen ar yr eiddo deallusol o ran data rydych yn ei greu.
- Storio - mae angen ystyried anghenion storio yn y tymor byr a'r tymor hir. Efallai y byddwch yn penderfynu defnyddio un dull wrth ichi weithio ar brosiect ond dull arall os oes angen ichi storio'r data yn y tymor hir yn unol â'r hyn mae llawer o gyllidwyr yn gofyn amdano. Mae angen i'r storio fod yn ddiogel ac yn ddichonol ar gyfer y tymor hir.
- Ailddefnyddio - meddyliwch a fyddwch yn rhoi statws mynediad agored i'r data, neu ar gael ar gais, a sut caiff hyn ei reoli.
- Materion o ran adnoddau - meddyliwch a fydd costau o ran rheoli eich data, a dylech gynnwys hyn yn eich cais am grant pan fo'n bosibl. Mae offeryn gan Archif Data'r Deyrnas Unedig sy'n gallu bod yn ddefnyddiol wrth ystyried costau data ymchwil.
Mae rhestr wirio ddefnyddiol gan Ganolfan Curadu Digidol y Deyrnas Unedig ar gyfer cynlluniau rheoli data.
Adnoddau