Am gyfnod prosiect ymchwil, bydd proses barhaus o greu a rheoli data. Mae materion rheoli data yn cynnwys:
Adnoddau
Mae sawl modiwl ym mhecyn hyfforddi MANTRA yn cynnwys y pynciau hyn:
Ble dylwn storio fy nata ymchwil?
Yn y lle cyntaf, dylid storio data a grëir o ganlyniad i ymgymryd â gweithgareddau ymchwil ar eich OneDrive. Ceir mynediad at hyn ar gyfrifiadur personol Windows drwy agor Windows Explorer. Ar y chwith yn y ffenestr a fydd yn ymddangos, byddwch yn gweld nifer o yriannau sydd wedi'u hatodi i'ch cyfrifiadur. Bydd un o'r rhain wedi'i labelu'n OneDrive. Mae OneDrive yn rhan o amgylchedd ar-lein Microsoft Office 365, a cheir mynediad ato drwy fewngofnodi i https://swanseauniversity-my.sharepoint.com. Mae modd ichi storio hyd at 200GB o ddata yn y lle hwn. Mae data sydd wedi'i storio yn OneDrive wedi'i storio ar isadeiledd Microsoft Cloud, ac o ran daearyddiaeth bydd mewn canolfannau data yn yr Undeb Ewropeaidd.
Mae modd rhannu ffeiliau yn eich OneDrive â chydweithwyr hefyd, yn y Brifysgol a'r tu allan iddi. Ewch i'r ddolen isod am ragor o wybodaeth am ddefnyddio eich OneDrive.
Adnoddau