Gallai costau rheoli data fod yn nhermau amser ac ymdrech yn ogystal ag adnoddau ffisegol megis caledwedd a meddalwedd. Mae canllaw Archif Data'r Deyrnas Unedig i Reoli a Rhannu Data yn awgrymu dewis un o ddwy ymagwedd at bennu costau rheoli data ar ddechrau prosiect ymchwil neu ar gyfer cais am gyllid:
- Prisio'r holl weithgareddau sy'n ymwneud â data ar gyfer cylch bywyd cyfan y data (creu, rhannu a chadw) er mwyn cyfrif cyfanswm cost o ran creu data.
- Pennu costau'r holl dreuliau ychwanegol (y tu hwnt i'r hyn a fyddai'n weithdrefnau ac arferion ymchwil safonol) a geir wrth ei gwneud hi'n bosibl rhannu'r data. Mae Gwasanaeth Data’r Deyrnas Unedig wedi datblygu offeryn pennu costau ar gyfer yr opsiwn hwn sy'n ystyried yr holl gamau a chostau posibl efallai y bydd angen eu cynnwys
Adnoddau