Skip to Main Content

Gwasanaethau Cymorth Data Ymchwil ar gyfer Ymchwilwyr

This page is also available in English

Rhannu Data a'i Ailddefnyddio

Pam y dylwn i rannu fy nata?

Mae Egwyddorion Cyffredin y UKRI ar bolisi data'n dweud:

‘Publicly funded research data are a public good, produced in the public interest, which should be made openly available with as few restrictions as possible in a timely and responsible manner.’

Caiff yr egwyddor hon ei chryfhau ymhellach yn y Concordat ar Ddata Ymchwil Agored sy'n cydnabod y dylai data ymchwil fod ar gael i'w ddefnyddio gan eraill, lle bynnag y bo'n bosib, mewn modd sy'n gyson â fframweithiau cyfreithiol, disgyblaethol a rheoleiddiol perthnasol, a chan roi sylw dyledus i'r gost dan sylw.

  • Os nad yw prosiectau'n rhannu canlyniadau ymchwil a data atodol, ceir perygl o ddyblygu ymdrech yn y broses o gasglu'r fath data eto.
  • Mae llawer o gyllidwyr bellach yn gofyn i ymchwilwyr rannu eu data ac mae eraill yn annog yr arfer (gwiriwch ofynion y cyllidwr ar dab Esbonio RDM).
  • Cyfrifoldeb y Prif Ymchwilydd yw sicrhau bod prosiectau'n bodloni disgwyliadau ei gyrff cyllido wrth ystyried sut a phryd i rannu data ymchwil.
  • Mae rhannu data'n galluogi prosiectau eraill i adeiladu ar eich gwaith.

Gweler hefyd Egwyddorion Craidd yr EPSRC sy'n cyd-fynd ag egwyddorion yr UKRI ar rannu data

Adnoddau